Elfennau dramaBeth ydy elfennau drama?

Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.

Part of DramaGwaith sgript

Beth ydy elfennau drama?

Elfennau drama ydy’r cynhwysion sy’n rhoi siâp a chymeriad i’r gwaith. Wrth ddyfeisio gwaith, beth bynnag ydy dy neu dy thema, dylet ti ystyried yr elfennau canlynol:

Plot

Hwn ydy stori, neu ‘linyn arian’ dy ddarn. Yn aml mae’r stori’n cael ei galw yn naratif. Heb unrhyw naratif gallai’r gwaith fod ar un lefel yn unig, gan fethu â chadw diddordeb y gynulleidfa. Mae dilyniant y plot yn rhywbeth rwyt ti’n gallu ymchwilio iddo ar ôl i ti gael sesiwn tanio syniadau ac addasu dy naratif.

Mae gan y rhan fwyaf o straeon ddechrau, canol a diwedd. Ond does dim rhaid i dy ddrama redeg yn y drefn linellol hon. Mae gan rai gweithiau strwythur anllinellol. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n dilyn trefn gronolegol ond yn hytrach yn symud o gwmpas mewn amser. Gall hon fod yn ddyfais ragorol ar gyfer adeiladu tensiwn a chadw diddordeb y gynulleidfa wrth i’r stori gael ei datgelu fesul tipyn. Mae drama Gwenlyn Parry, Y Tŵr yn enghraifft ragorol o hyn.

Gall drama gynnwys mwy nag un plot. Mae stori sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r brif stori yn cael ei galw’n is-blot. Enghraifft dda o hyn ydy drama Shakespeare, Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan (A Midsummer Night’s Dream). Y brif stori ydy hanes pedwar darpar gariad sydd ar goll yn y goedwig. Ond yn gyfochrog â hyn mae stori gomig criw o weithwyr llafur sy’n ymarfer drama ar gyfer priodas Dug Theseus.

Tylwyth teg yng nghynhyrchiad The Old Globe Theatre o A Midsummer Night’s Dream, 2013
Image caption,
Tylwyth teg yng nghynhyrchiad The Old Globe Theatre o A Midsummer Night’s Dream, 2013 LLUN: Jim Cox/San Diego Uptown News