Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.
Ystyr confensiwn ydy techneg sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd yn y ddrama fel bod y gynulleidfa’n priodoli ystyr arbennig i’r dechneg honno. Pan fydd techneg yn cael ei defnyddio dro ar ôl tro mewn drama daw’r gynulleidfa i ddeall ei harwyddocâd. Bydd hi’n ei derbyn fel ffordd benodol o adrodd y stori.
Mae yna amrywiaeth o gonfensiynau dramatig y gallet ti ymchwilio iddyn nhw i wneud dy ddrama’n fwy diddorol ac ennyn diddordeb y gynulleidfa:
symudiadau deinamig
ymsonAraith hir sy'n cael ei thraddodi gan un person. (araith unigol gan actor sy’n rhoi dealltwriaeth i rywun o’i feddyliau)
rhywun yn adrodd y stori
defnyddio ‘neilleb’ (pan fydd cymeriad yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa i wneud sylw yn yr olygfa)
canu (fel mewn Theatr gerddorol)
defnyddio corws i wneud sylwadau ar y ddrama
rhannu’r llwyfan fel bod gofodau gwahanol yn cynrychioli lleoliadau gwahanol
defnyddio placardiau (arwyddion) i roi gwybodaeth ychwanegol i’r gynulleidfa
rhannu rôl neu aml-rolau
defnyddio cerddoriaeth ac effeithiau sain yn y ddrama
Image caption,
Mae’r cynhyrchiad Mac//Beth gan Gwmni De Oscuro yn defnyddio sawl confensiwn dramatig megis cerddoriaeth, fideo a symudiadau deinamig LLUN: De Oscuro