Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.
Mae’r ffordd y mae’r actor yn newid llais, iaith y corff, symudiad, ystumiau ac ati yn y rôl yn cael ei alw’n gymeriadu. Mae pawb yn wahanol. Rhaid i’r actor ddefnyddio ei sgiliau i bortreadu cymeriad yn effeithiol ac yn gyson drwy gydol y perfformiad. Wrth greu cymeriadau mae angen i ti ystyried y canlynol:
Llais
Ydy dy gymeriad yn siarad ag acen benodol? Beth ydy tôn ei lais? Pa mor gyflym mae’n siarad? Oes gan y cymeriad nodweddion lleisiol penodol sy’n arbennig i’r cymeriad hwn yn unig?
Iaith y corff
Dyma beth mae ei symudiadau a’i ffordd o ddefnyddio’r corff yn ei ddweud am y cymeriad. Gall cymeriad sy’n nerfus iawn ac yn teimlo straen ddangos tyndra drwy fod yn anesmwyth neu ddal ei ysgwyddau’n dynn.
Mynegiant yr wyneb
Ydy dy gymeriad yn defnyddio llawer ar ei wyneb? Beth mae mynegiant ei wyneb yn ei ddweud am y cymeriad? Oes gan y cymeriad wyneb llawn mynegiant ynteu a ydy e’n ceisio peidio â dangos dim drwy’r wyneb?
Cadair boeth
Ystyr hyn ydy cael dy holi yn dy gymeriad. Mae’n ffordd wych o sicrhau dy fod yn deall y rhan rwyt ti’n ei chwarae
Mae gwneud gwaith byrfyfyr yn dy rôl hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth ymarfer gan ei fod yn sicrhau dy fod yn gallu actio’r cymeriad hwnnw ‘y tu hwnt i’r testun’. Mae’n dy helpu di i ddeall sut y byddai’n ymateb mewn amrywiaeth o amgylchiadau.