Dysgeidiaethau Cristnogol am faddeuant
Mae maddeuantRhoi pardwn am ddrygioni - rhoi'r gorau i ddicter a'r awydd i ddial ar ddrwgweithredwr. yn ddysgeidiaeth bwysig iawn o fewn Cristnogaeth. Mae llawer o straeon yn y Beibl sy'n dweud wrth Gristnogion am faddeuant. Mae disgwyl i Gristnogion ddilyn y dysgeidiaethau hyn.
Dameg y Gwas Anfaddeugar

Mae Dameg y Gwas Anfaddeugar yn dweud stori gwas oedd mewn dyled fawr i frenin. Doedd gan y gwas ddim digon o arian i dalu'n ôl i'r brenin, felly crefodd ar y brenin i roi mwy o amser iddo. Tosturiodd y brenin wrth y gwas a maddeuodd y ddyled, fel nad oedd rhaid i'r gwas dalu'n ôl i'r brenin.
Hefyd, roedd gan y gwas ffrind oedd mewn dyled fach iddo ef. Ar ôl i'r gwas adael y brenin, aeth i ofyn i'w ffrind am y swm bach o arian. Doedd gan ei ffrind ddim digon o arian i dalu'n ôl iddo, a chrefodd arno i roi mwy o amser iddo. Gwrthododd y gwas a thaflodd ei ffrind i'r carchar.
Clywodd y brenin am hyn, ac roedd yn ddig iawn, gan ei fod ef wedi maddau i'r gwas. Roedd y brenin yn teimlo y dylai'r gwas fod wedi maddau i'w ffrind yn yr un modd. Yna, taflodd y brenin y gwas i'r carchar nes ei fod wedi talu ei ddyled fawr yn ôl.
Ar ôl Dameg y Gwas Anfaddeugar, mae Pedr yn gofyn i Iesu pa mor aml y dylai faddau:
Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?” Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith."
Mae hyn yn amlinellu'r syniad nad gweithred untro yw maddeuant. Os yw rhywun yn gofyn am faddeuant dro ar ôl tro, mae'n ddyletswydd ar unigolyn i faddau iddo.
Mae'r Efengyl yn ôl Mathew yn parhau i ddysgu am faddeuant. Mae Crist yn ei gwneud hi'n glir bod rhaid i fodau dynol faddau i eraill er mwyn cael maddeuant:
Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Gweddi'r Arglwydd
Gweddi'r Arglwydd, lle mae Iesu'n dysgu am faddeuant, yw un o weddïau pwysicaf Cristnogaeth. Mae gan Gristnogion ddyletswydd i faddau pechodau, oherwydd gorchmynnodd Iesu y disgyblion i fynd allan i ddysgu a maddau pechodau.
Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau.
Yn union fel yr anfonodd Duw ei Fab i faddau pechodau, mae Iesu wedi trosglwyddo'r gorchymyn hwnnw i'w ddilynwyr.
Question
Esbonia'r dysgeidiaethau Cristnogol am faddeuant.
Mae maddeuant yn ddysgeidiaeth bwysig iawn o fewn Cristnogaeth. Mae llawer o enghreifftiau o faddeuant yn y Beibl a dylai Cristnogion geisio dilyn yr enghreifftiau hyn. Mae Dameg y Gwas Anfaddeugar yn dysgu am faddeuant. Mae'r gwas yn cael maddeuant am ei ddyled, ond dydy ef ddim yn maddau i rywun arall sydd mewn dyled iddo ef. Mae Gweddi'r Arglwydd hefyd yn sôn am faddeuant: "maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr". Mae Cristnogion yn credu, os ydyn nhw'n maddau i bobl eraill, y bydd Duw yn maddau iddyn nhw am eu pechodau. Mae llawer o Gristnogion yn dilyn y dysgeidiaethau hyn, fel Martin Luther King Jr. a oedd yn credu y dylai bodau dynol allu maddau bob amser.