Heddwch a gwrthdaro
Bwriad pob Cristion yw byw bywyd mewn heddwch, hynny yw byw heb anghytuno. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn bosibl bob amser am wahanol resymau. Er y ddysgeidiaeth Gristnogol y dylai pobl geisio byw ymysg eraill mewn ffordd gyfeillgar gan eu derbyn nhw a'u parchu nhw, bydd hyn weithiau yn amhosibl.
Beth yw rhyfel?
Gwrthdaro wedi'i drefnu yw rhyfel, ac mae fel arfer yn golygu un wladwriaeth neu wladwriaethau'n cyflawni trais difrifol yn erbyn gwladwriaeth neu wladwriaethau eraill.
Beth sy'n achosi gwrthdaro?
Mae'r pethau sy'n achosi unrhyw ryfel yn gymhleth. Anaml iawn y bydd rhyfeloedd yn ymwneud ag un peth yn unig. Mae rhyfel yn gallu cael ei ddatgan pan fydd gwladwriaeth neu wladwriaethau'n gweithredu i:
- ymosod ar wladwriaeth arall neu ei goresgyn, i gymryd tiriogaeth neu adnoddau
- gwrthsefyll ymosodiad neu oresgyniad o'r fath gan ymosodwr
- gwarchod gwladwriaeth arall rhag ymosodiad gan ymosodwr
- sicrhau rheolaeth neu newid gwleidyddol mewn gwladwriaeth arall, neu wrthsefyll rheolaeth o'r fath
- herio bygythiad i 'fudd cenedlaethol hanfodol' gan wladwriaeth arall
- gwrthwynebu bygythiadau ymddangosiadol gan ideoleg, crefydd neu grŵp ethnig gwahanol
- amddiffyn anrhydedd cenedlaethol o dan fygythiad
Mae rhyfel hefyd yn gallu digwydd yn fewnol o fewn gwladwriaeth rhwng grwpiau cyfundrefnol. Rhyfel cartref yw hyn.