Beth yw daioni, drygioni a dioddefaint?
Daioni
Mae'r gair daioni yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae pawb yn dehongli'r gair yn wahanol, ac mae safbwynt pobl am beth sy'n dda hefyd yn gallu dibynnu ar eu gwerthoedd, eu credoau a'u diwylliant. Yn gyffredinol, mae'r gair 'da' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pethau sydd ddim yn ddrwg, er enghraifft:
- gofalu am bobl eraill
- helpu pobl eraill
- dangos trugaredd at bobl eraill
Drygioni
Mae drygioni'n achosi dioddefaint i fodau dynol. Mae dau fath o ddrygioni:
- drygioni moesol - gweithredoedd gan fodau dynol sy'n cael eu hystyried yn ddrwg o safbwynt moesol
- drygioni naturiol - trychinebau naturiol, megis daeargrynfeydd neu tsunamiTon fawr ddinistriol sy’n cael ei hachosi gan ddaeargrynfeydd, gweithgaredd folcanig neu dirlithriad o dan y dŵr.
Mae'r ddau fath hyn o ddrygioni'n gallu gweithio gyda'i gilydd, er enghraifft mae drygioni dynol yn gallu gwneud drygioni naturiol yn waeth. Os yw drygioni naturiol, er enghraifft sychder o ganlyniad i ddiffyg glaw, yn achosi i gnydau fethu, mae polisïau llywodraeth yn gallu gwneud y prinder bwyd yn waeth i'r bobl dlotaf (drygioni moesol).
Mae dysgeidiaethau crefyddau am darddiad drygioni yn amrywio:
- Mae rhai'n credu ei fod wedi bod yn bresennol yn y byd o'r dechreuad ar ffurf gwaith grymoedd drwg.
- Mae rhai'n credu ei fod yn rhan o creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd. Duw, a bod ganddo bwrpas dydy bodau dynol ddim yn gallu ei ddeall.
- Mae rhai'n credu ei fod yn bodoli o ganlyniad i anwybodaeth a does ganddo ddim dechreuad.
- Mae'r rhan fwyaf o grefyddau'n dysgu bod rhaid gwrthwynebu drygioni moesol. Mae hi'n bwysig gwneud ymdrechion i leihau effaith drygioni naturiol.
Dioddefaint
Dioddefaint yw teimlo poen neu dristwch.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi dioddefaint ar ryw adeg yn eu bywyd. Mae crefyddau'n ceisio esbonio dioddefaint a helpu pobl i ymdopi ag ef a dysgu oddi wrtho. I rai pobl grefyddol, mae'r ffaith fod pobl yn dioddef yn gallu codi cwestiynau anodd ynglŷn â pham mae Duw yn caniatáu i hyn ddigwydd.
Mae rhai pobl yn dweud bod Duw yn caniatáu i fodau dynol wneud eu penderfyniadau eu hunain, ac mai dewisiadau pobl sy'n achosi dioddefaint.
Cwestiynau sy'n cael eu codi gan bresenoldeb drygioni a dioddefaint yn y byd
- Beth mae presenoldeb drygioni a dioddefaint yn ei ddweud am gariad, pŵer a phwrpas Duw?
- Oes pwrpas i ddioddefaint?
- Ai dioddefaint yw'r pris mae bodau dynol yn ei dalu am ewyllys ryddY gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes unrhyw beth wedi'i ragordeinio.?
- Sut mae gwahanol grefyddau'n ymateb i ddrygioni a dioddefaint?
- Sut mae unigolion yn ymateb i ddrygioni a dioddefaint?