Daioni, drygioni a dioddefaintCreu enaid

Weithiau mae drygioni a dioddefaint yn gallu peri i bobl gwestiynu eu credoau crefyddol. Mae credoau Cristnogol am darddiad dioddefaint yn y byd a sut i ymateb i'r broblem hon yn amrywio.

Part of Astudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Creu enaid

Creu enaid yw'r ddamcaniaeth fod rhaid i ddrygioni fodoli er mwyn i fodau dynol allu datblygu eu heneidiau drwy fyw a bod yn bobl dda a moesol. Mae’n rhoi cyfle i fodau dynol i ddysgu o ddioddefaint a datblygu rhinweddau moesol.

Theodiciaeth penderfynu enaid Awstin

Roedd Awstin yn credu bod pob bod dynol yn cael ei greu'n berffaith ac yn cael . Fodd bynnag, mae bodau dynol yn defnyddio'r ewyllys rydd hwnnw i droi oddi wrth Dduw a phenderfynu pechu. Roedd Duw wedi darogan byddai'r cwymp hwn yn digwydd, felly anfonodd ei fab, Iesu Grist, er mwyn i ddynoliaeth allu â Duw. Mae Awstin yn seilio tarddiad drygioni a dioddefaint ar ddynoliaeth ac yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw oddi ar Dduw.

Yn ei ddogfen am ffydd, gobaith a chariad o'r enw Yr Enchiridion, dywedodd Awstin mai'r diffiniad o ddrygioni yw ‘diffyg daioni’ (3:11). Mae hyn yn golygu nad yw drygioni'n bodoli yn yr un ffordd â daioni, ond mai drygioni yw absenoldeb daioni. Does dim rhaid i ddrygioni fodoli er mwyn i ddaioni fodoli. Does dim angen y gwrthwyneb.

Mae'r athrawiaeth hon yn caniatáu i Dduw fodoli fel bod . Mae hyn oherwydd nad Duw sy'n gyfrifol am greu drygioni, oherwydd dydy drygioni ddim yn bodoli fel endid ynddo'i hun.

Theodiciaeth creu enaid Irenaeus

Dywedodd Irenaeus fod Duw wedi gwneud bodau dynol yn amherffaith a'i fod felly'n rhannol gyfrifol am fodolaeth drygioni. Byddai gwneud bodau dynol yn berffaith yn golygu eu bod nhw'n colli eu rhyddid i fyw yn unol ag ewyllys Duw. Drwy greu bodau dynol amherffaith, mae unigolion yn cael y cyfle i ddatblygu a thyfu mewn proses o wneud enaid i fod yn "blant i Dduw". Dywedodd Irenaeus bydd daioni'n trechu drygioni a dioddefaint yn y pen draw.

Dyffryn creu enaid Hick

Mae theodiciaeth Hick yn seiliedig ar yr un un ag Irenaeus. Fodd bynnag, datblygodd Hick y ddamcaniaeth ymhellach, a'i galw'n ‘ddyffryn creu enaid.’ Roedd Hick yn cytuno bod bodau dynol yn cael eu creu'n amherffaith i ddechrau, er mwyn iddyn nhw allu tyfu a datblygu i fod yn "debyg" i Dduw. Datblygodd hyn ymhellach drwy esbonio bod bodau dynol yn datblygu rhinweddau drwy galedi a bywyd, a bod y rhinweddau hyn yn fwy ystyrlon na phe bai Duw wedi eu rhoi nhw i bawb.

Mae'r nodweddion da, moesol hyn yn well am eu bod nhw'n dod o ewyllys rydd. Yn wahanol i Awstin, oedd yn honni bod dynoliaeth yn dinistrio byd perffaith, mae Hick ac Irenaeus yn dweud bod y byd perffaith yn un i edrych ymlaen ato. Mae Hick yn credu bod gan bawb gyfle i gael bywyd tragwyddol.

More guides on this topic