Beth ydy ffracsiwn?
Os wyt ti’n torri teisen yn ddau ddarn hafal ac yn bwyta un ohonyn nhw, rwyt ti wedi bwyta \(\frac{1}{2}\) (hanner) teisen.
Os ydy teisen yn cael ei thorri’n bum darn hafal a dy fod ti'n bwyta tri ohonyn nhw, rwyt ti wedi bwyta \(\frac{3}{5}\) (tair rhan o bump) o deisen.
Mae \(\frac{1}{2}\) a \(\frac{3}{5}\) yn enghreifftiau o ffracsiynau – rhannau o rywbeth cyfan.