Ysgrifennu un rhif fel ffracsiwn o rif arall
Os wyt ti’n cael \({7}\) allan o \({10}\) mewn prawf, gelli di ysgrifennu dy sgôr fel \(\frac{7}{10}\).
Mae sgôr o \({7}\), wedi ei fynegi fel ffracsiwn o \({10}\), yn \(\frac{7}{10}\).
Yn yr un modd, os oes \({20}\) o sanau mewn drôr a bod \({4}\) ohonyn nhw’n las, mae \(\frac{4}{20}\) o’r sanau’n las.
Felly, mae \({4}\), wedi ei fynegi fel ffracsiwn o \({20}\), yn \(\frac{4}{20}\). Gallwn ni roi hyn yn ei ffurf symlaf drwy rannu’r rhifau top a gwaelod â \({4}\). Felly fe gawn ni \(\frac{1}{5}\).
Question
Pa ffracsiwn o’r siâp mawr ydy’r siâp bach?
Mae’r siâp bach yn \(\frac{3}{10}\) o’r siâp mawr.
Question
Pa ffracsiwn o’r siâp bach ydy’r siâp mawr?
Mae’r siâp mawr yn \(\frac{10}{3}\) neu \({3}\)\(\frac{1}{3}\) o’r siâp bach.
Os wyt ti’n mynegi rhif fel ffracsiwn o rif arall, mae’r rhif cynta yn mynd ar y top a’r ail rif yn mynd ar y gwaelod.
Question
Pa ffracsiwn o \({1}~{metr}\) ydy \({42}~cm\)? Rho dy ateb yn ei ffurf symlaf.
Mae \({42}~cm\) fel ffracsiwn o \({100}~cm\) yn \(\frac{42}{100} = \frac{21}{50}\)