Clefyd, amddiffyniad a thriniaethLledaenu clefyd

Achosir clefydau trosglwyddadwy trwy ymlediad micro-organebau. Sut maen nhw’n ymledu, a pha ddatblygiadau a ddaw yn y dyfodol o astudio’r system imiwnedd a thriniaeth clefydau?

Part of BiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Lledaenu clefyd

Gall lledaeniad, neu , clefyd o un unigolyn i’r llall ddigwydd mewn sawl ffordd, fel y gwelir yn y tabl isod.

Math o drosglwyddoEnghraifft
Cyswllt uniongyrcholGall hyn fod yn gyffwrdd rhywiol, ee yn ystod cyfathrach, neu gyffwrdd anrhywiol, ee ysgwyd llaw.
DŵrGall dŵr budr drosglwyddo llawer o glefydau, fel bacteriwm colera.
AerPan fydd rhywun sydd wedi’i heintio â’r annwyd yn tisian, gall chwistrellu miloedd o ddefnynnau bychain yn cynnwys gronynnau firws i heintio pobl eraill.
Paratoi bwyd mewn ffordd sydd ddim yn hylanGall bwyd sydd heb ei goginio’n llawn neu sydd wedi’i aildwymo achosi clefydau bacteriol fel Escherichia coli, sy’n achos gwenwyn bwyd.
FectorFector yw’r term am unrhyw organeb sy’n gallu lledaenu clefyd. Mae rhai ffermwyr yn credu y gall twbercwlosis gael ei ledaenu i wartheg gan foch daear.
Math o drosglwyddoCyswllt uniongyrchol
EnghraifftGall hyn fod yn gyffwrdd rhywiol, ee yn ystod cyfathrach, neu gyffwrdd anrhywiol, ee ysgwyd llaw.
Math o drosglwyddoDŵr
EnghraifftGall dŵr budr drosglwyddo llawer o glefydau, fel bacteriwm colera.
Math o drosglwyddoAer
EnghraifftPan fydd rhywun sydd wedi’i heintio â’r annwyd yn tisian, gall chwistrellu miloedd o ddefnynnau bychain yn cynnwys gronynnau firws i heintio pobl eraill.
Math o drosglwyddoParatoi bwyd mewn ffordd sydd ddim yn hylan
EnghraifftGall bwyd sydd heb ei goginio’n llawn neu sydd wedi’i aildwymo achosi clefydau bacteriol fel Escherichia coli, sy’n achos gwenwyn bwyd.
Math o drosglwyddoFector
EnghraifftFector yw’r term am unrhyw organeb sy’n gallu lledaenu clefyd. Mae rhai ffermwyr yn credu y gall twbercwlosis gael ei ledaenu i wartheg gan foch daear.

Enghreifftiau o glefydau trosglwyddadwy

HIV/AIDS

Mae yn golygu Human Immunodeficiency Virus sef Firws Imiwnoddiffygiant Dynol. Trosglwyddir yr haint hwn drwy hylifau’r corff, yn aml yn ystod rhyw heb warchodaeth, ond hefyd drwy friwiau a thrwy chwistrellu cyffuriau gan rannu nodwyddau. Yn syth wedi’r heintiad, bydd pobl yn aml yn dioddef symptomau ysgafn tebyg i ffliw. Aiff y rhain heibio, ac am gyfnod gall pobl a heintiwyd beidio gwybod eu bod wedi’u heintio.

Mae yn golygu Acquired Immune Deficiency Syndrome sef Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig. Fisoedd neu flynyddoedd wedi heintiad gan y firws HIV, daw’n weithredol a dechrau ymosod ar y claf. Dyma’r pwynt lle mae HIV yn troi’n AIDS.

Does dim triniaeth i iacháu HIV/AIDS, er bod llawer o wyddonwyr yn ceisio canfod un. Ar hyn o bryd, rhoddir i bobl a heintiwyd. Gall hynny arafu datblygiad AIDS.

Map yn dangos poblogaeth y byd y mae AIDS yn effeithio arnynt, ar Dde Affrica yr effeithir fwyaf. Yn effeithio ar 15.0% - < 34.0% o’r boblogaeth
Figure caption,
Canran o boblogaeth y byd sydd â AIDS

Chlamydia

Chlamydia yw’r clefyd mwyaf cyffredin a drosglwyddir trwy ryw ym Mhrydain. Caiff ei achosi gan facteriwm o’r enw Chlamydia trachomatis, a’i drosglwyddo trwy gyffwrdd uniongyrchol yn ystod cyfathrach rywiol drwy’r fagina a’r wrethra. Gellir ei atal rhag lledaenu drwy ddefnyddio condomau, a gellir ei drin â fel tetrasyclin neu erythromysin.

Os na chaiff ei drin gall achosi anffrwythlondeb mewn oedolion, a gall hefyd achosi llid y gyfbilen/conjunctivitis mewn babanod yn fuan wedi’r geni os yw’r fam wedi’i heintio.

Gall ledaenu i ysgyfaint babanod hefyd wrth iddynt basio trwy’r llwybr geni, gan achosi niwmonia.

Malaria

Clefyd a ledaenir gan mosgitos sy’n cludo’r protist Plasmodium yw . Ceir mosgitos yn bennaf mewn rhannau poeth o’r byd, fel Affrica, Asia, a De America ac America Ganol, ond nid ym Mhrydain. Bydd mosgitos yn sugno gwaed sy’n cynnwys y protist o berson sydd wedi’i heintio. Wedyn maen nhw'n trosglwyddo'r protist i bobl eraill wrth sugno’u gwaed hwythau. Am fod mosgitos yn trosglwyddo’r clefyd heb fynd yn sâl eu hunain, gelwir nhw’n .

Mae symptomau malaria yn cynnwys twymyn, chwysu ac oerfel, cur pen, taflu i fyny a . O’r 200 miliwn o bobl a gaiff eu heintio bob blwyddyn, bydd hyd at eu hanner yn marw o’r clefyd. Wedi degawdau o ymchwil, bu i wyddonwyr lwyddo i ddatblygu'r cyntaf ar gyfer malaria yn 2021. Mae atal unigolion rhag cael eu pigo yn parhau i fod yn ffordd o rwystro’r haint. Bydd pobl yn cysgu dan rwydi mosgitos ac yn gwisgo eli gwrth-bryfed i osgoi pigiadau. Cymerir hefyd, sy’n trin y symptomau ac yn gallu rhwystro’r haint.

Michael Mosely yn ymchwilio i falaria ar raglen (cynnwys Saesneg)