Amddiffynfeydd y corff
Mae’r corff o hyd yn amddiffyn rhag ymosodiadau gan pathogenMicro-organeb sy’n achosi clefyd.. Mae’r amddiffynfeydd cyntaf yn erbyn heintiad yn atal y pathogenau rhag cael mynediad i dy gorff. Amddiffynfeydd cyffredinol yw’r rhai cyntaf hyn, heb fod yn benodol ar gyfer ymladd yn erbyn mathau arbennig o bathogen. Galwn y rhain yn rhwystrau amhenodol, a gallant fod naill ai’n gorfforol neu’n gemegol.
Y croen
Mae’r croen yn gorchuddio bron bob rhan o dy gorff i atal heintiad gan bathogenau. Os caiff ei dorri neu ei sgriffio, mae’n dechrau ei iacháu ei hun yn syth, yn aml drwy ffurfio crachen. Mae hyn yn atal haint wrth i’r croen weithredu fel rhwystr corfforol. Mae rhannau o’r corff sydd heb groen wedi datblygu ffyrdd eraill i atal haint. Er enghraifft, mae’r llygaid yn cynhyrchu dagrau sy’n cynnwys ensymProtein sy'n catalyddu neu'n cyflymu adwaith cemegol yn y corff.. Rhwystrau cemegol yw’r rhain.

Y trwyn
Mae gan y trwyn flew mewnol sy’n gweithredu fel rhwystr corfforol rhag haint. Mae celloedd yn y trwyn yn cynhyrchu mwcwsMwcws yw'r protein gwyn llysnafeddog sy'n leinio'r system resbiradol a'r llwybr ymborth. sy’n dal pathogenau cyn iddynt allu mynd i’r ysgyfaint. Wrth chwythu’r trwyn, taflir y mwcws allan, ynghyd ag unrhyw bathogenau sydd wedi’u dal ynddo.
Y tracea a’r bronci
Mae’r traceaY prif lwybr anadlu yn y system resbiradu, neu’r corn gwynt/pibell wynt, sy’n cysylltu’r ffaryncs a’r laryncs â’r ysgyfaint. yn rhedeg o’r trwyn tuag at yr ysgyfaint. Ar y celloedd sy’n leinio’r tracea mae blew o’r enw ciliaYmestyniadau bach iawn tebyg i flew o gell sy’n ei galluogi fel arfer i symud sylwedd heibio’r gell (er enghraifft, yn y bronciolynnau yn yr ysgyfaint)., sy’n llawer llai na’r blew yn y trwyn. Celloedd ciliedig yw’r enw ar y rhain. Mae’r celloedd ciliedig yn chwifio’u blew ac yn symud mwcws a phathogenau i fyny tua’r corn gwddw lle cânt eu llyncu i dy stumogOrgan cyhyrol yn y system dreulio sy’n cynhyrchu asid hydroclorig ac ensymau proteas..
Mae celloedd eraill a elwir yn cell gobledCell sy’n cynhyrchu mwcws i iro pilenni mewnol y corff. yn creu’r mwcws er mwyn dal pathogenau. Rhwystr corfforol yw’r mwcws a gynhyrchir yn dy lwybr anadlu.

Y stumog
Nid yw asid y stumog yn dadelfennu bwyd. Mae’n rhan o amddiffynfa gyntaf amhenodol y corff. Mae’n cynnwys asid hydroclorig, ac er nad yw’n gwneud dim niwed i ni, mae’n ddigon cryf i ladd unrhyw bathogenau sydd wedi’u dal mewn mwcws yn y llwybr anadlu neu mewn bwyd neu ddŵr a yfwyd. Mae asid y stumog yn rhwystr cemegol rhag haint.