Candelas: AnifailCandelas

Mae cerddoriaeth roc yn derm cyffredinol sy’n berthnasol i nifer o genres cerddoriaeth gwahanol, a’r rheini wedi datblygu ers cyfnod roc a rôl yn yr 1950au. Mae’r trac Anifail gan y band Candelas yn enghraifft o gân roc.

Part of CerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Candelas

Band roc o Lanuwchllyn yw Candelas.

Candelas

Cafodd y band ei ffurfio yn 2009 ac mae pump o gerddorion yn rhan o’r band:

  • Osian Williams – gitâr a llais
  • Ifan Jones – gitâr
  • Tomos Edwards – gitâr fas
  • Gruffydd Edwards – gitâr
  • Lewis Williams – drymiau

Fe wnaethon nhw ryddhau eu EP cyntaf - Kim y Syniad - yn 2011, a’u halbwm cyntaf - Candelas - yn 2013. Roedd yr albwm cyntaf yn cynnwys caneuon Cymraeg a Saesneg, tra roedd eu hail albwm - Bodoli’n Ddistaw - yn Gymraeg i gyd.

Daeth y gân Rhedeg i Paris yn anthem i ddathlu ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn 2016, ac mae wedi’i gwylio bron i 150,000 o weithiau ar y platfform rhannu fideos, YouTube.

Prif ddylanwadau’r band yw’r bandiau Americanaidd The Strokes a Queens of the Stone Age, ynghyd ag Arctic Monkeys o Loegr.

Mae’r band Candelas wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys nifer o wobrau Y Selar am y band gorau a’r gân Gymraeg orau. Hefyd, cyrhaeddodd yr albwm Bodoli’n Ddistaw y rhestr fer yng ngwobr albwm Cymraeg y flwyddyn 2015. Mae’r band yn perfformio mewn nifer o wyliau cerddoriaeth drwy Gymru, fel Maes B yn yr Genedlaethol a gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd.

More guides on this topic