Candelas: AnifailNodweddion cerddoriaeth roc

Mae cerddoriaeth roc yn derm cyffredinol sy’n berthnasol i nifer o genres cerddoriaeth gwahanol, a’r rheini wedi datblygu ers cyfnod roc a rôl yn yr 1950au. Mae’r trac Anifail gan y band Candelas yn enghraifft o gân roc.

Part of CerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Nodweddion cerddoriaeth roc

Mae cerddoriaeth roc gan amlaf mewn amser 4/4 ac mae’r rhan fwyaf o’r caneuon yn defnyddio adeiledd pennill a chytgan. Mae’n cael ei pherfformio gan amlaf gan fandiau sy’n cynnwys gitâr drydan, gitâr fas a drymiau, gydag o leiaf un canwr. Mae’r geiriau mewn cerddoriaeth roc yn gallu trafod nifer o bynciau, ond yn aml byddan nhw am bynciau fel cariad, cymdeithas a gwleidyddiaeth.

Mae cerddoriaeth roc gan amlaf yn cynnwys y nodweddion hyn:

  • ríff gitâr – brawddeg fer sy’n cael ei hailadrodd ac sy’n rhoi sylfaen i gân
  • ystumiant – mae ystumiant yn digwydd pan fydd sain sydd wedi’i mwyhau yn cael ei newid i greu tôn niwlog neu gras ar gitâr
  • mwyhau – sain wedi’i mwyhau yw pan fydd lefel sain cerddoriaeth yn cael ei gwneud yn uwch, fel arfer gan ddefnyddio offer electronig
  • cordiau pŵer – cord pwerus dau nodyn sydd fel arfer yn cynnwys tonydd a llywydd y cywair, er enghraifft C a G yng nghywair C
Elfennau cerddoriaeth roc.

More guides on this topic