Nodweddion arddullRhestru

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Rhestru

Rhestru yw’r dechneg o nodi pethau un ar ôl y llall. Mae’n cael ei defnyddio i bwysleisio gwahanol bethau. Weithiau, bydd beirdd yn defnyddio’r nodwedd hon i bwysleisio cymaint o bethau sydd i’w gweld neu eu clywed.

DyfyniadEffaith
“ar lannau traffyrdd ...”, “yng nghesail concrid swyddfeydd gweigion”, “dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio” (Tai Unnos – Iwan Llwyd)Mae’r bardd yn rhestru’r holl lefydd y gall person digartref gysgodi yn y nos. Mae’r rhestr hefyd yn awgrymu bod nifer o bobl yn cysgu yn y lleoliadau hyn bob nos.
“cychod a chestyll a chloc o flodau” (Glas - Bryan Martin Davies)Mae’r enghraifft yma yn cyfleu cyffro’r plentyn ar lan y môr wrth iddo ddisgrifio’r olygfa o’i gwmpas. Mae cymaint o bethau i’w gweld ar draeth Abertawe.
Dyfyniad“ar lannau traffyrdd ...”, “yng nghesail concrid swyddfeydd gweigion”, “dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio” (Tai Unnos – Iwan Llwyd)
EffaithMae’r bardd yn rhestru’r holl lefydd y gall person digartref gysgodi yn y nos. Mae’r rhestr hefyd yn awgrymu bod nifer o bobl yn cysgu yn y lleoliadau hyn bob nos.
Dyfyniad“cychod a chestyll a chloc o flodau” (Glas - Bryan Martin Davies)
EffaithMae’r enghraifft yma yn cyfleu cyffro’r plentyn ar lan y môr wrth iddo ddisgrifio’r olygfa o’i gwmpas. Mae cymaint o bethau i’w gweld ar draeth Abertawe.

Question

Beth yw effaith y rhestru sydd yn y gerdd Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen?

Troesom ein tir yn simneiau tân / a phlannu coed a pheilonau cadarn / lle nad oedd llyn.