Nodweddion arddullCymhariaeth / Cyffelybiaeth

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cymhariaeth / Cyffelybiaeth

Defnyddir cymariaethau er mwyn cymharu rhywbeth â rhywbeth arall. Bydd cymhariaeth yn cael ei defnyddio mewn disgrifiad i ni ddeall mwy am y ddelwedd mae’r bardd yn ceisio ei llunio. Chwilia am y geiriau ‘fel’, ‘megis’, neu ‘mor ... â’ wrth lithr ddarllen am gymariaethau.

Dyma enghreifftiau o gymariaethau o gerddi penodol:

DyfyniadEffaith
“Mae yno flas y cynfyd / Yn aros fel hen win.” (Eifionydd – R. Williams Parry)Mae’r gyffelybiaeth hon yn cyfleu bod ardal Eifionydd yn gwella wrth i amser fynd yn ei flaen. Yn union fel y mae gwin yn aeddfedu a gwella.
“digwydd, darfu megis seren wib.” (Y Llwynog – R. Williams Parry)Pwysleisia’r gymhariaeth hon fod y profiad o weld y llwynog yn un byr. Wrth gymharu â ‘seren wib’ mae’r bardd yn cyfleu pa mor werthfawr oedd y profiad am ei fod yn ddigwyddiad mor brin.
Dyfyniad“Mae yno flas y cynfyd / Yn aros fel hen win.” (Eifionydd – R. Williams Parry)
EffaithMae’r gyffelybiaeth hon yn cyfleu bod ardal Eifionydd yn gwella wrth i amser fynd yn ei flaen. Yn union fel y mae gwin yn aeddfedu a gwella.
Dyfyniad“digwydd, darfu megis seren wib.” (Y Llwynog – R. Williams Parry)
EffaithPwysleisia’r gymhariaeth hon fod y profiad o weld y llwynog yn un byr. Wrth gymharu â ‘seren wib’ mae’r bardd yn cyfleu pa mor werthfawr oedd y profiad am ei fod yn ddigwyddiad mor brin.

Question

Beth yw effaith y gymhariaeth isod o’r gerdd Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood?

pan fydd y lleuad wen ym mhen draw’r byd, / a’r machlud fel y wawr ar orwel cudd;