Nodweddion arddullPersonoli

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Personoli

Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae personoli yn golygu rhoi nodweddion person i wrthrych, ee yr haul yn gwenu, y coed yn dawnsio, i greu delwedd effeithiol.

DyfyniadEffaith
“siopau’n agor llygaid” (Prifddinas Caerdydd yn Dihuno – Mihangel Morgan)Yma, mae’r bardd yn disgrifio’r ddinas yn deffro’n araf yn y bore. Nid oes gan siopau lygaid ond mae’r defnydd o bersonoli yn creu darlun o ffenestri'r siopau yn goleuo ac yn agor yn gysglyd.
Dyfyniad“siopau’n agor llygaid” (Prifddinas Caerdydd yn Dihuno – Mihangel Morgan)
EffaithYma, mae’r bardd yn disgrifio’r ddinas yn deffro’n araf yn y bore. Nid oes gan siopau lygaid ond mae’r defnydd o bersonoli yn creu darlun o ffenestri'r siopau yn goleuo ac yn agor yn gysglyd.

Question

Beth yw effaith y personoli isod yn y gerdd Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood?

pan fydd y niwl yn gwisgo’r bryniau draw