Gorymdeithiau newyn
Jarrow
Yn 1936, roedd pobl Jarrow, tref yng ngogledd ddwyrain Lloegr, yn byw mewn trallod a threfnwyd cyfarfod gyda gweinidog y Cabinet er mwyn gofyn am help. Yn anffodus dywedwyd wrthyn nhw am fynd adref a cheisio datrys eu hachubiaeth eu hunain.
Er mwyn denu cyhoeddusrwydd i’w hachos, trefnodd pobl Jarrow orymdaith anwleidyddol i Lundain. Gorymdeithiodd 200 o ddynion, yn eu dillad capel, dan arweiniad Maer Jarrow, yr AS Ellen Wilkinson a rhai cynghorwyr, yn heddychlon gyda’i gilydd am dros 450km. Cawson nhw loches mewn neuaddau plwyf gan ennill cefnogaeth sylweddol ar hyd y ffordd. Ond, ychydig o gefnogaeth a gafwyd gan y Llywodraeth pan gyrhaeddwyd Llundain ymhen wyth mis, a dim ond anwybyddu’r ddeiseb wnaeth y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, ar y pryd.
Denodd Gorymdaith Jarrow gyhoeddusrwydd a chydymdeimlad mawr gan nifer o bobl, Roedd pobl yn rhoi prydiau bwyd am ddim iddyn nhw, a chafodd eu hesgidiau eu trwsio’n rhad ac am ddim. Siaradodd Esgob Ripon yn gyhoeddus o’u plaid a chyhoeddodd y papurau newyddion adroddiadau am eu taith. Serch hynny, gellir dadlau na effeithiodd y gorymdeithiau fawr ddim ar y llywodraeth.
Yn anffodus, dywedwyd wrth y bobl a orymdeithiodd bod eu taliadau dôl wedi eu cwtogi oherwydd nad oedden nhw ar gael i weithio yn ystod yr amser yr oedden nhw’n gorymdeithio.

Y Rhondda
Roedd yna hefyd nifer o orymdeithiau newydd oedd yn cynnwys pobl o gwm Rhondda a de Cymru yn gyffredinol.
- Hydref 1927 – yr orymdaith newyn gyntaf. Dwy flynedd cyn Cwymp Wall Street, roedd y Rhondda eisoes yn dioddef lefelau tlodi uchel. Ar ddydd Sul 18 Medi, cynhaliwyd cyfarfod a elwid yn ‘Sul Coch y Rhondda’ i alw am orymdaith i Lundain er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r anawsterau economaidd. Serch hynny, oherwydd anghytuno rhwng gwahanol sefydliadau, ni chynhaliwyd yr orymdaith. Roedd yr orymdaith a gynlluniwyd yn amlygu’r tlodi yn y Rhondda, a’r teimlad nad oedd gwleidyddion yn Llundain yn deall yr ardal.
- 5 Medi 1931 – roedd yna orymdaith i Fryste, o dan y slogan ‘Straffaglu neu Lwgu’ (Struggle or Starve). Roedd 112 o bobl wedi cymryd rhan, yn cynnwys 12 o ferched. Roedd traean o’r gorymdeithwyr o’r Rhondda. Cafodd yr orymdaith eich chwalu gan yr heddlu ym Mryste.
- 14 Hydref 1932 – cafwyd gorymdaith newyn genedlaethol i Lundain. Roedd 2,500 o orymdeithwyr o bob cwr o Brydain wedi cymryd rhan, yn cynnwys 375 o dde Cymru.
Gorymdaith Newyn Genedlaethol, 1932

Ym mis Hydref 1932, gorymdeithiodd 2,500 o weithwyr o bob rhan o’r wlad i Lundain. Helpodd undebau llafur i drefnu’r orymdaith a threfnu bwyd a lloches i’r gorymdeithwyr.
Roedd y gorymdeithiau yn achos pryder i’r llywodraeth a sicrhaodd bod yna ddigon o bresenoldeb yr heddlu. Hefyd, defnyddiwyd ysbiwyr i weithio yng nghanol y grwpiau. Defnyddiwyd grym hefyd mewn rhai achosion er mwyn cipio deisebau a’u hatal rhag cyrraedd y senedd.
Cafodd yr orymdaith olaf ym mis Hydref 1936 gefnogaeth y blaid Lafur a 504 o orymdeithwyr. Ond, fel yn achos y gorymdeithiau blaenorol, ni chyflawnwyd fawr ddim.