Dulliau o ymladd troseddYnadon Heddwch (YH) Oes y Tuduriaid

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Ynadon Heddwch (YH) Oes y Tuduriaid

Roedd rôl yr Ynadon yn amrywiol. Roedden nhw'n:

  • trefnu gwaith atgyweirio ar ffyrdd a phontydd
  • gwirio pwysau a mesuriadau mewn siopau
  • rhoi trwyddedau i dafarndai
  • goruchwylio cymorth i’r tlodion
  • gweithredu fel mewn cwrt bach a llysoedd chwarter
  • arestio a holi rhai dan amheuaeth
  • trefnu Cwnstabliaid a Gwarchodwyr/Gwylwyr

Pa mor effeithiol oedd Ynadon Heddwch Oes y Tuduriaid?

Nid oedd Ynadon Oes y Tuduriaid yn cael cyflog, ond mae’n debyg nad oedd hynny yn lleihau eu heffeithiolrwydd oherwydd bod y rhan fwyaf yn dirfeddianwyr cyfoethog oedd yn gwneud y gwaith er mwyn cael y bri a’r statws yn hytrach na’r arian. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud y gwaith mewn modd difrifol a phroffesiynol.

Roedd gan yr Ynadon rôl allweddol o ran arestio a chosbi troseddwyr. Cynyddodd eu pwerau yn 1554, oherwydd ar ôl hynny gallant arestio rhywun oedd yn cael ei amau o droseddu a’u holi am dri diwrnod. Roedd hynny yn golygu eu bod yn fwy effeithiol.

Oherwydd bod Ynadon yn dirfeddianwyr gyda statws yn eu cymunedau lleol, gallai’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddibynnu ar barch y bobl, oedd yn parchu eu penderfyniadau.

Ond cynyddodd eu rôl a’u pwysau gwaith yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig o ganlyniad i gynnydd mewn crwydraeth. Dechreuodd rhai Ynadon fod yn llwgr a chamddefnyddio eu swyddi, yn arbennig yn ystod y 17eg ganrif.