Gorfodi cyfraith a threfnGorfodi cyfraith a threfn cyn y 16eg ganrif

Cyn y 19eg ganrif nid oedd yna heddluoedd oedd yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth. Yn yr oes fodern, mae gennym heddluoedd ym mhob rhan o’r wlad. Sut mae’r cyfrifoldeb yma am orfodi cyfraith a threfn wedi newid gydag amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Gorfodi cyfraith a threfn cyn y 16eg ganrif

Plismona cyn 1500

Nid oedd yna heddlu yn bodoli cyn y 16eg ganrif. Cyfrifoldeb y dioddefwr a’r gymuned leol oedd canfod y troseddwr eu hunain. Disgwylid i gymunedau fod yn gyfrifol am blismona ac ymladd yn erbyn troseddu.

Roedden nhw'n gwneud hynny drwy:

  • ddefnyddio gwaedd ac ymlid - sef, galw ar gyd-bentrefwyr i ymlid y troseddwr. Petai pentrefwyr yn methu ag ymuno, gellid dirwyo’r pentref.
  • Degymiadau - roedd dynion yn cael eu rhoi mewn grwpiau o ddeg. Petai un aelod o’r deg yn torri’r gyfraith, cyfrifoldeb y gweddill oedd dal y dihiryn a mynd ag ef i’r llys.

Yn ystod yr oesoedd canol, bu ychydig o ddatblygu ar y system hon.

Penodwyd Siryfion Sirol er mwyn goruchwylio cyfraith a threfn yn y siroedd. Roedden nhw'n cael eu penodi gan y Brenin a nhw oedd y prif swyddogion cyfreithiol yn ystod y canol oesoedd. Petai pentrefwyr yn methu â dal troseddwr, byddai’r Siryf yn ffurfio er mwyn parhau i ymlid y troseddwr. Gellid gorfodi pob dyn dros 15 oed i ymuno â posse gan y Siryf.

Byddai posse hefyd yn delio ag unrhyw reiadau lleol. Roedd Siryf hefyd yn ymchwilio i droseddau difrifol, eto gyda chymorth rheithgor o bobl leol fyddai’n tyngu llw er mwyn dweud pwy yr oedden nhw'n credu oedd wedi cyflawni’r drosedd. Byddai’r Siryf hefyd yn cadw troseddwr, ar ôl ei ddal, mewn carchar lleol.

Penodwyd Crwneriaid Sirol ar ôl 1190. Roedden nhw'n ymchwilio i farwolaethau treisgar neu amheus, gyda chymorth rheithgor o bobl leol.

Ar ôl 1250, dechreuodd pentrefi benodi Cwnstabliaid ym mhob pentref er mwyn monitro cyfraith a threfn. Byddai’r rhain yn bentrefwyr blaenllaw fyddai’n ymgymryd â’r rôl am flwyddyn. Roedd yn swydd ddi-dâl a byddai’r Cwnstabl yn arwain y waedd ac ymlid, a byddai ganddo gyfrifoldebau eraill hefyd.

Treialon cyn 1500

Roedd barnwyr brenhinol yn teithio o gwmpas y wlad yn delio ag achosion difrifol. Sefydlwyd llysoedd sirol, gydag Ynadon Heddwch (YH), a elwid hefyd yn Ynadon, yn gwrando ar achosion. Fel arfer, y prif dirfeddianwyr lleol oedd yr Ynadon. Roedd hon yn swydd ddi-dâl. Roedd gan bob pentref neu faenor lys maenor o hyd, oedd yn cael ei gynnal gan yr arglwydd neu dirfeddiannwr lleol ar gyfer mân achosion.

Cyfreithiau Hywel Dda

Roedd Hywel Dda yn llywodraethwr Cymreig yn y 10fed ganrif. Fe unodd y rhan fwyaf o Gymru o dan ei arweinyddiaeth. Hefyd, fe ysgrifennodd system gyfreithiol unedig cyntaf Cymru. Ar ôl y Goncwest Normanaidd, parhaodd Cyfreithiau Hywel Dda i fod yn sylfaen i system gyfreithiol Cymru.

Yn 1284 bu i Statud Rhuddlan orfodi defnyddio cyfraith Lloegr ym mhob achos troseddol yng Nghymru. Ond, roedd cyfreithiau Hywel Dda yn parhau i gael eu defnyddio mewn achosion sifil hyd at 1540.

Roedd y cyfreithiau yn nodi system o ddigolledu dioddefwyr troseddau ar gyfer amrywiol droseddau. Er enghraifft, byddai teuluoedd dioddefwyr llofruddiaeth yn cael eu digolledu’n ariannol.

Roedd cyfreithiau Hywel Dda yn rhoi cydgyfrifoldeb am orfodi’r gyfraith. Cyfrifoldeb y Carennydd (Cenedl) oedd ymddygiad yr aelodau.