Dulliau o ymladd trosedd20fed ganrif - arbenigo

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

20fed ganrif - arbenigo

Pan sefydlwyd yr heddluoedd gyntaf roedden nhw'n cynnwys Cwnstabliaid ac Arolygwyr arferol. Rôl y Cwnstabl oedd patrolio’r strydoedd a cherdded 'ar y bît'.

Newidiodd natur yr heddlu a rôl y swyddogion yn ystod yr 20fed ganrif. Mae'r nifer o yn yr heddlu yn cynyddu drwy'r amser, ee Cwnstabl, Rhingyll, Arolygydd a Phrif Arolygydd.

  • Sefydlodd Heddlu Metropolitan Gwîb Heddlu (Flying Squad) yn 1919, ac fe gafodd yr enw hwnnw oherwydd eu bod yn defnyddio ceir i ymateb yn gyflym i droseddau, yn arbennig lladrata. Yn ddiweddarach fe’i hailenwyd yn Heddlu Lladradau Canolog.
  • Yn 1946 sefydlwyd yr Heddlu Twyll ac yn 1965 sefydlwyd y Grŵp Patrôl Arbennig er mwyn delio ag argyfyngau mawr ac anhrefn mewn canol dinasoedd.
  • Ers 1989 mae gan bob heddlu Adran Ymchwiliadau Troseddol (Criminal Investigation Department - CID) sef ditectifs sy’n gwisgo dillad eu hunain.
  • Mae yna hefyd sgwadiau arbenigol sy’n delio â llofruddiaethau a ffrwydron.
  • Sefydlwyd yr Heddlu Trin Cŵn yn 1946.
  • Sefydlwyd Rheolaeth Gwrthderfysgol (SO15) yn 2006.

Yn gynyddol, mae unedau Heddlu Cenedlaethol wedi cael eu sefydlu er mwyn delio â throseddau ar raddfa genedlaethol, megis swyddfa cofnodion troseddol ACRO a’r uned Troseddau Bywyd Gwyllt Genedlaethol.

Mae sefydliadau cenedlaethol eraill wedi’u sefydlu gan y llywodraeth er mwyn cefnogi gwaith yr heddlu mewn perthynas â throseddau penodol. Er enghraifft, mae’r Asiantaeth Troseddau Genedlaethol yn ceisio taclo troseddu cyfundrefnol.

Erbyn hyn mae gan bob heddlu Adran Fforensig. Mae’r Adran Fforensig yn defnyddio gwyddoniaeth i ddatrys troseddau. Ar ddechrau’r 20fed ganrif bu iddynt ddatblygu ffordd o adnabod pob ôl bys. Sefydlodd Heddlu Metropolitan labordy er mwyn profi eitemau o dystiolaeth. Erbyn hyn mae’r heddlu yn defnyddio ôl bysedd genetig – adnabod troseddwyr o olion DNA mewn samplau gwaed, gwallt neu boer er enghraifft. Mae hynny yn arbennig o ddefnyddiol mewn achosion o lofruddiaeth neu dreisio.