Dulliau cosbiCrwydriaid yn oes y Tuduriaid

Roedd y dulliau cosbi a ddefnyddiwyd yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid yn seiliedig ar gosb eithaf a chosb gorfforol gyhoeddus. Gydag amser mae’r ffocws wedi newid, a charcharu yw ein prif ddull o gosbi erbyn heddiw. Sut mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Sut oedd crwydriaid yn cael eu trin yn oes y Tuduriaid

Roedd crwydriaid yn cael eu trin yn llym yn oes y Tuduriaid. Pasiwyd deddfau er mwyn cosbi crwydriaid mewn gwahanol ffyrdd. Ar y cychwyn roedd cardotwyr a chrwydriaid yn cael eu trin yn yr un modd. Ond, gydag amser defnyddiwyd dulliau gwahanol ar gyfer y rhai oedd yn wirioneddol dlawd o ganlyniad i henaint, salwch neu anabledd, a’r rhai oedd yn abl ond yn gwrthod gweithio.

BlwyddynCosb
1495Roedd crwydriaid yn cael eu rhoi mewn cyffion am dri diwrnod. Ar ôl hynny roedden nhw’n cael eu hanfon yn ôl i’r plwyf ble’u ganwyd.
1531Roedd crwydriaid yn cael eu chwipio a’u hanfon yn ôl i’r plwyf ble’u ganwyd. Roedd pobl a oedd yn troseddu'n aml yn cael eu cosbi’n llymach.
1547Roedd crwydriaid oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu gwarthnodi â V ar eu talcen ac yn cael eu gorfodi i fod yn bobl gaeth am ddwy flynedd. Byddai pobl a oedd yn troseddu'n aml yn cael eu dienyddio. Cafodd y ddeddf honno ei diddymu dros gyfnod o dair blynedd.
1601Deddf Tlodion Elisabethaidd - sefydlwyd trethi lleol er mwyn rhoi arian i gynorthwyo’r tlawd yn yr ardal a darparu gwaith iddyn nhw. Ond, roedd y rhai oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu chwipio ac yn cael eu hanfon i dŷ cywiro. Roedd cardotwyr yn cael eu chwipio nes bod eu cefnau yn gwaedu ac fe’u hanfonwyd yn ôl i’w man geni.
Blwyddyn1495
CosbRoedd crwydriaid yn cael eu rhoi mewn cyffion am dri diwrnod. Ar ôl hynny roedden nhw’n cael eu hanfon yn ôl i’r plwyf ble’u ganwyd.
Blwyddyn1531
CosbRoedd crwydriaid yn cael eu chwipio a’u hanfon yn ôl i’r plwyf ble’u ganwyd. Roedd pobl a oedd yn troseddu'n aml yn cael eu cosbi’n llymach.
Blwyddyn1547
CosbRoedd crwydriaid oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu gwarthnodi â V ar eu talcen ac yn cael eu gorfodi i fod yn bobl gaeth am ddwy flynedd. Byddai pobl a oedd yn troseddu'n aml yn cael eu dienyddio. Cafodd y ddeddf honno ei diddymu dros gyfnod o dair blynedd.
Blwyddyn1601
CosbDeddf Tlodion Elisabethaidd - sefydlwyd trethi lleol er mwyn rhoi arian i gynorthwyo’r tlawd yn yr ardal a darparu gwaith iddyn nhw. Ond, roedd y rhai oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu chwipio ac yn cael eu hanfon i dŷ cywiro. Roedd cardotwyr yn cael eu chwipio nes bod eu cefnau yn gwaedu ac fe’u hanfonwyd yn ôl i’w man geni.