Agweddau yn y 16eg a’r 17eg ganrif
Ad-daledigaeth
Mae ad-daledigaeth yn golygu cosbi rhywun am drosedd gyfartal neu gyfatebol. Mae’n awgrymu bod dioddefwr yn gallu dialTalu'r pwyth yn ôl i rywun am rywbeth. am drosedd drwy wneud i’r troseddwr ddioddef. Awydd pobl i ddial, neu chael ad-daledigaeth, am drosedd oedd y prif reswm fod cosbau yn bodoli hyd at ddechrau’r 19eg ganrif.
Roedd hon yn agwedd allweddol mewn perthynas â chosbau corfforol a’r gosb eithaf o’r 16eg ganrif i’r 19eg ganrif. Roedd yr holl gosbau yn rhoi ad-daledigaeth oherwydd y gorfodwyd troseddwyr i ddioddef poen, sarhad, ac yn aml marwolaeth am eu troseddau.
Ataliaeth
Mae ataliaeth yn golygu annog pobl i beidio â chyflawni trosedd drwy achosi iddyn nhw ofni’r canlyniadau. Gwneir hynny’n aml drwy wneud i’r cosbau fod yn llym ac amhleserus.
Cosbi
ad-daledigaethDial ar rywun am droseddu. Gweinyddu cosb gyfartal neu gyfatebol am drosedd. ac ataliaethAnnog rhywun i beidio â throseddu drwy wneud iddyn nhw ofni’r goblygiadau. oedd y prif agweddau tuag at gosbi yn y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd hynny’n arwain at gosbau llym, a’r troseddwyr yn dioddef poen, sarhad neu farwolaeth.
Y gosb eithaf
Yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid defnyddiwyd y gosb eithaf i gosbi troseddau difrifol. Y dull mwyaf cyffredin o ddienyddio oedd crogi. Byddai crogi yn arwain ar farwolaeth drwy lindagu, ac yn aml roedd hynny’n cymryd nifer o funudau.
Roedd dulliau eraill o ddienyddio yn cynnwys llosgi i farwolaeth, ac roedd hon yn bennaf yn gosb ar gyfer heresi.

Y dull dienyddio ar gyfer teyrnfradwriaeth oedd torri pen, neu grogi, diberfeddu a phedrannu. Torrwyd pennau aelodau o’r teulu brenhinol, fel arfer gyda bwyell. Byddai tir ac arian y bradwr yn cael ei feddiannu gan y frenhiniaeth.
Yn y 16eg a’r 17eg ganrif roedd pobl yn cefnogi’r gosb eithaf oherwydd bod hynny'n bodloni eu dyhead am ad-daledigaeth, ac roedd hefyd yn ataliaeth i eraill.
Cosb gorfforol

Defnyddiwyd amryw o gosbau corfforol hefyd yn y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd cyffion a rhigod yn cael eu defnyddio’n aml i sarhau troseddwyr ac i achosi poen iddyn nhw. Defnyddiwyd fflangelluChwipio rhywun. hefyd. Yn gynharach yn y cyfnod defnyddiwyd anffurfioRhwygo neu dynnu rhannau o’r corff. a gwarthnodiMarcio croen person gyda haearn poeth. Roedd crwydrwyr yn cael eu marcio gyda’r llythyren V (am Vagrant), er enghraifft. hefyd.
Yn aml, os byddai menywod yn dweud y drefn wrth eu gŵyr, bydden nhw’n cael eu cosbi ar gadair drochi mewn afon neu bwll yn yr ardal, neu’n cael eu tywys o gwmpas y dref yn gwisgo Ffrwyn Cecren, neu Ffrwyn y Dafodwraig, sef cawell haearn trwm ar gyfer y pen a haearn tafod yn y geg. Mae’r ffaith fod cosb wahanol yn cael ei rhoi i ferched yn adlewyrchu statws merched a’r agweddau tuag atynt yn y cyfnod modern cynnar.
Mae’r dulliau hyn o gosb eithaf a chosb gorfforol yn dangos bod awydd yn ystod Oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid i godi cywilydd ar dioddefwr a gwneud cosbau’n greulon o llym, a hynny i atal pobl rhag troseddu ac fel ffordd o ddial.