Ad-daledigaeth ac ataliaeth yn y 18fed ganrif
Roedd agweddau ad-daledigaethDial ar rywun am droseddu. Gweinyddu cosb gyfartal neu gyfatebol am drosedd. ac ataliaethAnnog rhywun i beidio â throseddu drwy wneud iddyn nhw ofni’r goblygiadau. yn parhau i fod yn sail i nifer o gosbau’r 18fed ganrif. Roedd cosbau yn parhau i fod yn gosbau corfforol a dienyddio. Roedd cosbau corfforol yn dal i gael eu defnyddio yn ystod y ganrif hon, ond fflangelluChwipio rhywun. oedd y gosb a ddefnyddiwyd amlaf.
Roedd dienyddio’n parhau i ddigwydd yn gyhoeddus yn y 18fed ganrif, yn bennaf y tu allan i Garchar Newgate yn Llundain. Ar ôl 1783 defnyddiwyd dull cyflymach o ddienyddio drwy dynnu platfform o dan draed y carcharor. Roedd hynny yn torri gwddf y troseddwr ac yn arwain at farwolaeth gyflymach a llai poenus.
Daeth mwy a mwy o droseddau yn droseddau eithaf yn sgil datblygiad troseddau newydd yn y 18fed ganrif, o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol ac economaidd. Roedd yr holl Aelodau Seneddol (y deddfwyr) yn dirfeddianwyr o’r bonedd, ac roedden nhw’n ofni’r cynnydd yn y troseddau a oedd yn bygwth eu heiddo.
Credai’r Aelodau Seneddol y dylai’r cosbau fod mor llym â phosibl, er mwyn atal pobl rhag troseddu, i gael gwared ar y troseddwyr gwaethaf drwy eu dienyddio, ac i ddarparu ffordd o ddial i’r ddioddefwyr. Daeth dros 200 o droseddau’n rhai a fyddai’n arwain at y gosb eithaf, sef at farwolaeth. Y Cod Troseddol, neu’r Cod GwaedlydYr enw a roddwyd ar system gyfreithiol Prydain yn ystod y 18fed ganrif oherwydd bod nifer o’r troseddau yn droseddau’r gosb eithaf., oedd yr enw ar y newidiadau hyn, ac roeddent yn cynnwys y canlynol:
- dwyn defaid
- potsio pysgod
- torri coeden oedd yn tyfu
Fodd bynnag, roedd difrifoldeb y Cod Gwaedlyd hwn yn golygu bod beirniaid a rheithgorau yn aml yn osgoi ei ddilyn. Byddai’n well gan rai ohonyn nhw i gael troseddwr yn ddieuog yn hytrach na rhoi’r gosb eithaf. Roedd eraill yn defnyddio alltudioAnfon troseddwr a ddedfrydwyd i wersyll carchar tramor, fel America neu Awstralia. fel cosb lai llym, ond un a fyddai’n dal i atal pobl rhag troseddu. Nid oedd cael y gosb eithaf fel ataliaeth ar gyfer gymaint o droseddau yn gweithio yn ymarferol.
Ar gyfer troseddau llai, fel gamblo, meddwdod ac ymddygiad anweddus yn gyhoeddus, roedd dirwyon ariannol yn dal yn fath cyffredin o gosb.