Gorfodi cyfraith a threfnCyfrifoldebau dinesig a phlwyfol yn y 16eg ganrif

Cyn y 19eg ganrif nid oedd yna heddluoedd oedd yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth. Yn yr oes fodern, mae gennym heddluoedd ym mhob rhan o’r wlad. Sut mae’r cyfrifoldeb yma am orfodi cyfraith a threfn wedi newid gydag amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Twf cyfrifoldebau dinesig a phlwyfol yn y 16eg ganrif

Yn 1500 roedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn dal i fyw mewn cymunedau gwledig neu drefi bach. Ond roedd y yn darfod ac roedd , yn hytrach nag Arglwydd y Faenor, yn cael eu defnyddio fwyfwy fel ffordd o drefnu a rheoli materion lleol.

Er mai sefydliadau crefyddol oedd y plwyfi, roedd llywodraethau Tuduraidd, drwy gydol yr 16eg ganrif, yn rhoi mwy a mwy o bwerau iddynt mewn materion lleol. Er enghraifft, yn 1555, roedd y plwyfi’n gyfrifol am gynnal y ffyrdd gerllaw, tra roedd Deddf y Tlodion 1601 yn amlinellu cyfrifoldeb y plwyf i ofalu am ei thlodion ei hun. Hefyd o dan y Ddeddf, roedd plwyfolion yn cael eu penodi gan Ynadon Heddwch i oruchwylio Deddf y Tlodion am flwyddyn.

Yn yr 16eg a’r 17eg ganrif, cafodd trefi a phlwyfi unigol fwy o gyfrifoldeb am frwydro yn erbyn troseddau ac am blismona’r wlad.

Ynadon Heddwch (YH)

Roedd yr Ynadon Heddwch yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gyfraith a threfn ym mhob sir. Sefydlwyd swydd yr Ynad Heddwch yn yr oesoedd canol, ond daeth i fod yn bwysicach yn oes y Tuduriaid. Nid oedden nhw'n derbyn cyflog ac roedden nhw'n gwneud y gwaith yn bennaf oherwydd y bri a’r statws. Fel arfer roedd Ynadon yn dirfeddianwyr yn y sir oedd yn cael eu penodi i’r swydd yn flynyddol. Roedd nifer yn gwneud y gwaith am flynyddoedd. Roedd y gwaith yn cynnwys nifer o’r pethau y mae ein cynghorau lleol yn eu gwneud heddiw, megis trefnu gwaith atgyweirio ffyrdd a phontydd, gwirio pwysau a mesuriadau mewn siopau, trwyddedu tafarndai, a goruchwylio cymorth i’r tlodion.

Cwrt bach a llysoedd chwarter

Roedd yna tua 20 o Ynadon ym mhob sir ac roedden nhw'n gwrando ar achosion mewn llys. Bydden nhw'n cynnal er mwyn delio â mân droseddau megis mân ladrata ac ymladd. Ar gyfer achosion mwy difrifol megis llofruddiaeth, ymosodiad neu reiadau, byddai nifer mwy o Ynadon yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn mewn . Byddai’r achosion mwyaf difrifol, fel llofruddiaeth, dewiniaeth a therfysgoedd, yn cael eu pasio ymlaen i'r brawdlysoedd, lle byddai barnwr a rheithgor yn barnu.

Yr Ynadon oedd yn arwain a threfnu Cwnstabliaid y Plwyf a Gwarchodwyr Trefi.

Cwnstabliaid y Plwyf

Y cymunedau lleol oedd yn dal yn gyfrifol am gynnal cyfraith a threfn o ddydd i ddydd drwy Gwnstabl y Plwyf. Roedd Cwnstabl y Plwyf neu’r Is-gwnstabl yn cael ei benodi gan yr Ynad Heddwch am flwyddyn. Roedd gwaith yr Is-gwnstabl yn ddi-dâl ac roedd yn cael ei wneud yn ychwanegol at waith arferol bob dydd yr unigolion. Masnachwyr neu ffermwyr lleol fydden nhw fel arfer, fel y gallai cymunedau eu ‘plismona’ eu hunain.

Disgwyliwyd i’r Is-gwnstabl gyflawni’r holl brif ddyletswyddau oedd yn gysylltiedig â phlismona lleol.

  • Cadw trefn ar dafarndai a gwestai.
  • Cadw’r heddwch yn y plwyf.
  • Anfon yn ôl i'w plwyfi gwreiddiol.
  • Corlannu anifeiliaid fferm strae.
  • Arestio pobl oedd wedi cyflawni trosedd.
  • Atal troseddau megis tresmasu a potsio.
  • Gweithredu cosbau megis chwipio crwydriaid.
  • Cadw llygaid ar ymddygiad prentisiaid.
  • Chwilio am grwydriaid.

Roedd dyletswydd ar bobl leol i helpu’r Cwnstabl os oedd e’n gofyn am gymorth, gan gadw’r gymuned yn gyfrifol am weithredu cyfraith a threfn.

Gwarchodwyr

Gwarchodwr nos yn Llundain gyda'i bicell a'i lusern.

Roedd Gwarchodwyr yn bodoli ers cyfnod Edward I. Nid oeddent yn cael tâl, ac roedd disgwyl i holl ddynion y dref wirfoddoli ar gyfer y ddyletswydd. Bydden nhw’n patrolio strydoedd y trefi mwyaf bob nos. Byddai’r trigolion cyfoethocaf yn talu rhai eraill i wneud eu dyletswydd ar eu rhan.

Cawsant yr enw Charlies, neu Charleys, ar ôl 1663 pan sefydlodd Siarl II lu o Warchodwyr cyflogedig i batrolio’r strydoedd. Nid oeddent yn gwisgo lifrai ond roedd modd eu hadnabod wrth eu côt drom, eu llusern a’u cloch.

Er mai cyflog bach roeddent yn ei gael, a’u bod yn destun sbort, roedd y ffaith fod y brenin wedi ymyrryd yn y gwaith plismona, a bod y Gwarchodwyr yn cael eu talu, yn arwydd o symud draw oddi wrth y syniad o gymunedau’n eu plismona eu hunain.

Cyflwyno Cyfraith Lloegr yng Nghymru ar ôl y Deddfau Uno

Bu i’r Deddfau Uno (1536 a 1543) olygu bod cyfreithiau Lloegr yn cael eu ymestyn i Gymru gyfan, a phenodwyd Ynadon i weinyddu’r gyfraith fel yn Lloegr. Diddymwyd cyfreithiau Cymreig blaenorol, megis cyfreithiau Hywel Dda. Gorfododd y Deddfau Uno hefyd mai Saesneg oedd yr iaith a ddefnyddiwyd mewn llysoedd yng Nghymru, ac roedd yn rhaid i bob swyddog cyhoeddus ddefnyddio Saesneg. Rhoddodd y cyfreithiau yma mwy o bŵer i ddosbarth bonedd Cymru, a daethant i fod yn Ynadon Heddwch.

Rhoddodd y Deddfau Uno gyfrifoldeb am gyfraith a threfn yng Nghymru i’r Ynadon, fel yn Lloegr.