Rhwydweithiau LAN a WAN
Mae dau brif fath o rwydwaith:
- Rhwydwaith Ardal Leol (LAN – Local Area Network)
- Rhwydwaith Ardal Eang (WAN – Wide Area Network)
Rhwydwaith LAN
Mae rhwydwaith LAN yn darparu ar gyfer ardal fach, megis un safle neu adeilad, er enghraifft ysgol neu goleg.
Rhwydwaith WAN
Mae rhwydwaith WAN yn darparu ar gyfer ardal ddaearyddol fawr. Mae’r rhan fwyaf o rwydweithiau WAN yn cynnwys llawer o rwydweithiau LAN sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd.
- Mae’r rhyngrwydRhwydwaith byd-eang sy’n cysylltu miliynau o gyfrifiaduron. yn rhwydwaith WAN.
- Mae rhwydwaith o beiriannau arian banc yn rhwydwaith WAN.
- Mae rhwydwaith ysgol fel arfer yn rhwydwaith LAN.
- Yn aml iawn mae rhwydweithiau LAN wedi’u cysylltu â rhwydweithiau WAN, er enghraifft gallai rhwydwaith ysgol fod wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd.
- Gall rhwydweithiau WAN fod wedi’u cysylltu â’i gilydd gan ddefnyddio’r rhyngrwyd, llinellau ar log neu gysylltiadau lloeren.