Mathau o rwydweithiauBeth alli di ei wneud ar y rhyngrwyd?

Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.

Part of TGChRhwydweithiau

Beth alli di ei wneud ar y rhyngrwyd?

Mae’n bosibl gwneud llawer o bethau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys:

  • pori drwy
  • anfon a derbyn
  • edrych am ffeiliau cyfryngau a’u , er enghraifft ffeiliau Mp3 neu fideo
  • gwylio fideo sy’n cael ei , er enghraifft BBC iPlayer, YouTube ac yn y blaen
  • edrych faint o arian sydd gennyt yn dy gyfrif banc a gwneud taliadau
  • prynu nwyddau o siopau ar-lein
  • gweld deunydd addysgol o Amgylchedd Rhith Ddysgu (VLE - Virtual Learning Environment) dy ysgol
  • creu, storio, golygu a rhannu dy ddogfennau gan ddefnyddio , er enghraifft Google Docs
  • rhyngweithio â ffrindiau ar safleoedd , er enghraifft Bebo, MySpace, Facebook ac yn y blaen
  • ysgrifennu
  • ymuno â a thrafod pynciau sydd o ddiddordeb i ti gyda phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordebau
  • chwarae gemau gyda ffrindiau
  • anfon negeseuon sydyn at deulu a ffrindiau
  • rhannu ffotograffau a fideos
  • cwblhau dosbarthiadau tiwtorial di-dâl yn ymwneud â llawer o wahanol bynciau
Chwe gliniadur â gwahanol dudalennau gwe ar agor, er enghraifft ffrydio fideo, bancio, siopa, llwytho i lawr, blogio a bancio.