Y rhyngrwyd
System fyd-eang o rwydweithiau cyfrifiadurol rhyng-gysylltiedig yw’r rhyngrwyd. Pan fyddi di’n cysylltu dy gyfrifiadur di â’r rhyngrwyd drwy dy Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) byddi’n dod yn rhan o rwydwaith yr ISP.
Y We Fyd-eang
Y We Fyd-eang (WWW neu’r 'we' yn fyr) yw’r rhan o’r rhyngrwyd y galli di gael mynediad ati drwy ddefnyddio porwr gweRhaglen (ap) sy’n arddangos tudalennau gwe., er enghraifft Internet ExplorerPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Microsoft. neu FirefoxPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Mozilla.. Mae’n cynnwys llawer iawn o weinyddion gwe sy’n lletya gwefannau. Fel arfer bydd pob gwefan yn cynnwys nifer o dudalennau gwe. Gall tudalen we gynnwys testun, delweddau, fideo, animeiddiad a sain.
Cael mynediad i dudalennau gwe
Mae’n bosibl cael mynediad i wefan neu dudalen we drwy deipio URL (Lleolydd Adnoddau Unffurf (Uniform Resource Locator)) y wefan neu’r dudalen ym mar cyfeiriad y porwr. Enghraifft o URL yw http://http://unitedkingdom.bahce.site.
Fel arfer bydd URL yn dilyn y fformat 'HTTPProtocol Trosglwyddo Hyperdestun (Hypertext Transfer Protocol) – safon ar gyfer ceisiadau/ymatebion. Mae porwyr gwe yn anfon ceisiadau ac mae gwefannau neu weinyddion yn ymateb i geisiadau.' a parthArdal sy’n rheoli, er enghraifft, mae bbc.co.uk yn cael ei reoli gan y BBC. (er enghraifft .ukCod gwlad y rhyngrwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig.). Mae’r hyn sy’n mynd yn y canol yn amrywio, ond yn aml mae’n cynnwys y term "www", er enghraifft http://www.bbc.co.uk, ond does dim rhaid i hyn ddigwydd, er enghraifft http://news.bbc.co.uk).
Https yw’r fersiwn ddiogel o http. Pan fyddi di’n defnyddio https bydd unrhyw dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. y byddi di’n eu hanfon neu’n eu derbyn gan y gweinydd gwe wedi’u hamgryptio. Er enghraifft, pan fyddi di’n bancio ar-lein mae https yn cael ei ddefnyddio i gadw manylion dy gyfrif banc yn ddiogel.
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau dudalen sy’n cysylltu’r defnyddiwr â phrif rannau eraill y wefan. Enw’r rhan hon o’r wefan yw’r dudalen gartref.
Mae tudalennau gwe’n cael eu cysylltu drwy gysylltau hyperdestun. Pan fyddi di’n clicio ar gyswllt byddi’n symud i dudalen arall a allai fod ar gweinyddCyfrifiadur sy’n cadw data i’w rhannu â chyfrifiaduron eraill. Mae gweinydd gwe yn storio ac yn rhannu gwefannau. arall mewn unrhyw ran o’r byd.
Beth yw mewnrwyd?
Mae mewnrwyd yn rhwydwaith sy’n gweithio’n debyg i’r rhyngrwyd, ond ei fod ar gael o fewn sefydliad arbennig yn unig, nid i’r cyhoedd. Gallai mewnrwyd gynnwys tudalennau gwe i rannu data penodol am y cwmni o fewn y cwmni hwnnw, er enghraifft rhifau ffôn mewnol neu fanylion buddion gweithwyr.