Rhwydwaith seren
Mewn rhwydwaith seren mae gan bob dyfais ar y rhwydwaith ei chebl ei hun sy’n cysylltu â both neu switshDyfais i gysylltu cyfrifiaduron a dyfeisiau addas eraill i ffurfio rhwydwaith.. Mae both yn anfon pob pecyn o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. i bob dyfais, tra mae switsh yn anfon pecyn o ddata i’r ddyfais gyrchfan yn unig.
Rhwydwaith seren, lle mae dyfeisiau wedi’u cysylltu â both neu switsh canolog
Manteision ac anfanteision rhwydwaith seren
Manteision rhwydwaith seren yw:
- mae’n ddibynadwy iawn – os bydd un cebl neu ddyfais yn methu bydd y lleill i gyd yn dal i weithio
- mae’n cynnig perfformiad da gan na all gwrthdrawiadau data ddigwydd
Anfanteision rhwydwaith seren yw:
- mae’n gostus i’w osod gan fod angen mwy o gebl ar gyfer y rhwydwaith hwn (mae cebl rhwydwaith yn ddrud)
- mae angen caledwedd ychwanegol (bothau neu switshys) sy’n ychwanegu at y gost
- os bydd both neu switsh yn methu, ni fydd gan unrhyw un o’r dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu ag ef gysylltiad rhwydwaith