Cysylltu â’r rhyngrwyd
Er mwyn cysylltu â’r rhyngrwyd mae angen y canlynol:
- cyfrifiadur
- llinell ffôn (ac eithrio cebl)
- modemDarn o galedwedd sy’n cysylltu cyfrifiadur â’r rhyngrwyd. a/neu llwybryddDyfais i gysylltu cyfrifiaduron a dyfeisiau addas eraill i ffurfio rhwydwaith.
- ISP (Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd)
- porwr gweRhaglen (ap) sy’n arddangos tudalennau gwe., er enghraifft Internet ExplorerPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Microsoft., FirefoxPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Mozilla., ChromePorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Google., SafariPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Apple., OperaPorwr gwe wedi’i ddatblygu gan Opera Software., ac yn y blaen.
Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP)
Mae ISPs yn darparu mynediad i’r rhyngrwyd. Rhai o’r ISPs mwyaf cyffredin yw Sky, Virgin a BT, ond mae llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig yr un pecyn sylfaenol o fynediad i’r rhyngrwyd, ebostPost electronig. Dull o anfon negeseuon a ffeiliau at bobl eraill. cyfeiriadau a gofod gweFaint o le storio sy’n cael ei roi i wefan..
Mae angen porwr gwe er mwyn gweld tudalen weTudalen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer porwr gwe, ac sy’n cael ei gweld mewn porwr gwe.. Y porwyr gwe sy’n cael eu defnyddio amlaf yw Internet Explorer a Firefox. Bydd gan bob porwr nifer o nodweddion tebyg sy’n dy helpu i ddefnyddio’r we, er enghraifft:
- botymau ymlaen ac yn ôl i symud rhwng tudalennau
- ffolder hanes sy’n storio manylion tudalennau gwe rwyt ti wedi ymweld â nhw yn ddiweddar
- botwm stop os yw tudalen yn cymryd gormod o amser i lwytho
- opsiynau ffefrynnau a nod tudalen er mwyn storio tudalennau rwyt ti’n ymweld â nhw’n aml
- opsiynau i dorri, copïo, gludo, cadw ac argraffu rhannau o dudalennau gwe
Bydd cysylltiad â’r rhyngrwyd naill ai’n analogData parhaus sy’n gallu cael amrediad o werthoedd. neu’n digidolGwybodaeth sy’n cael ei storio fel gwerthoedd arwahanol. Fel arfer mae’n cael ei chynrychioli gan rifau. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â data analog sy’n cael eu cynrychioli gan ddata parhaus, fel arfer mewn tonnau.. Mae’n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhwng y ddau a deall pa dechnolegau maen nhw’n eu defnyddio.