Mathau o rwydweithiauChwilio’r we

Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.

Part of TGChRhwydweithiau

Chwilio’r we

Mae angen sgil a digon o ymarfer er mwyn dod o hyd i’r union wybodaeth rwyt ti’n chwilio amdani ar y . Mae miloedd o dudalennau i’w gweld am bob pwnc.

Peiriannau chwilio

Mae peiriant chwilio yn wasanaeth sy’n dy helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth rwyt ti ei hangen ar y rhyngrwyd. Mae peiriannau chwilio yn chwilio am newydd ar y rhyngrwyd yn barhaus, ac yn eu catalogio i greu mynegai. Enghreifftiau o beiriannau chwilio cyffredin yw Google, Yahoo ac AltaVista, ond mae llawer o rai eraill i’w cael hefyd.

Termau chwilio

Pan fyddi di’n mynd at beiriant chwilio byddi di’n gweld blwch chwilio lle byddi di’n rhoi geiriau allweddol ar gyfer dy bwnc. Er enghraifft, os byddi di’n rhoi’r gair dant rwyt ti’n debygol o gael cysylltau ar gyfer tudalennau am ddannedd, cerddoriaeth neu hyd yn oed ddant y llew.

Beth am i ni gymryd bod arnat ti eisiau gwybodaeth am gerdd dant? Os byddi di’n teipio cerdd dant mae’n bosibl y bydd y peiriant chwilio’n dangos cysylltau ar gyfer llawer o dudalennau am ddannedd, dant y llew a chanu cerdd dant. Ond os gwnei di deipio "cerdd dant" (gyda dyfynodau) bydd y peiriant chwilio’n cymryd bod cerdd dant yn ymadrodd ac yn dangos manylion sy’n cynnwys y geiriau cerdd dant yn y drefn honno.

Termau chwilio uwch

Bydd teipio cerdd + dant yn canfod dogfennau sy’n cynnwys y ddau air. Bydd rhoi cerdd + dant - dannedd yn canfod dogfennau sy’n cynnwys y geiriau cerdd a dant ond heb gyfeiriad at ddannedd.