Smyglo yn y 18fed ganrif

Roedd mân ladrata, a throseddu treisgar i raddau llai, yn parhau i fod y prif droseddau a gyflawnwyd yn ystod y 18fed ganrif. Ond, arweiniodd dechrau’r Chwyldro Diwydiannol at droseddau newydd oedd yn gysylltiedig â mathau newydd o fasnachu a thrafnidiaeth. Wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd, roedd deddfwyr yn pasio deddfau yn erbyn y troseddau newydd megis smyglo a lladrata pen ffordd.
Smyglo yw masnachu nwyddau yn anghyfreithlon er mwyn osgoi talu tollau a threthi. Roedd y 18fed ganrif yn cael ei galw’n oes aur smyglo.
Fel arfer roedd smyglo yn cael ei drefnu gan gangiau oedd yn cael eu hariannu gan fuddsoddwyr neu fentrwyr. Roedden nhw'n dewis rhannau anghysbell o’r arfordir er mwyn glanio nwyddau o longau. Roedd yna nifer o fannau addas ar hyd arfordir de Lloegr a gorllewin Cymru, yn cynnwys cildraethau bach ac aberoedd.
Y prif eitemau a smyglwyd yn ystod y 18fed ganrif oedd te, gwin, gwirodydd a les. Yn 1784, o’r 13 miliwn pwys o de a ddefnyddiwyd ym Mhrydain, awgrymodd y Prif Weinidog William Pitt yr Ieuaf mai dim ond 5.5 miliwn oedd wedi cael ei brynu yn gyfreithlon.
Gangiau smyglo
Yn aml roedd gangiau smyglo yn cynnwys 50-100 o bobl, a phob un â’i rôl benodol.
- Byddai Spotsmon yn cyfeirio’r llong tuag at y traeth.
- Byddai Glaniwr yn trefnu’r gwaith o ddadlwytho’r cargo.
- Roedd Cychwr yn cario’r nwyddau.
- Roedd Batsmyn yn amddiffyn y Cychwr.
Byddai’n rhaid i’r gangiau gadw llygaid am swyddogion o’r adran Tollau Tramor a Chartref. Roedd yr arfordir yn cael ei rannu yn 33 ardal, ac roedd gan bob un dîm o swyddogion atal, a’u gwaith oedd atal smyglo, neu ddal y smyglwyr.
Ond nid oedd digon o swyddogion i batrolio’r holl arfordir ac ni ddaliwyd nifer o smyglwyr. Yn aml nid oedd y rhai a ddaliwyd yn cael eu dedfrydu, oherwydd ni fyddai llawer o bobl yn rhoi tystiolaeth yn eu herbyn oherwydd bod y gangiau yn aml yn bygwth pobl i fod yn dawel.
Smyglo yng Nghymru
- Roedd smyglo halen yn gyffredin rhwng Cei Newydd ac Abergwaun. Bu gwrthdaro treisgar rhwng smyglwyr a swyddogion tollau yn 1704.
- Roedd smyglwyr fel Harri Morgan yn masnachu ar Ynys Bŷr, ychydig oddi ar yr arfordir yn Ninbych y Pysgod.
- Roedd ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn ganolfannau i smyglwyr. Roedd Maenorbŷr, Solfach a Bae Sain Ffraid yn ganolfannau smyglo.
- Mae gan nifer o fannau ar hyd arfordir Sir Benfro enwau sy’n gysylltiedig â smyglo, er enghraifft Ogof Wisgi.
- Un o forladron enwocaf Sir Benfro oedd Barti Ddu (Bartholomew Roberts).
- Roedd William Owen yn smyglo brandi a halen o Ynys Manaw i Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn yn ystod y 1720au a’r 1730au. Cafodd ei ddal a’i ddienyddio yn 1747.
- Arweiniodd Siôn Cwilt gang smyglo ar hyd arfordir Ceredigion, ac ni chafodd ei ddal erioed.
- Roedd gwinoedd, sidan a gwirodydd yn cael eu smyglo yn Abermaw.
- Roedd Bae Gîl ar Benrhyn Gŵyr yn cael ei ddefnyddio gan William Arthur a’i gang i smyglo brandi.
Dirywiad smyglo
Roedd smyglwyr yn aml yn cael eu dienyddio er mwyn ceisio atal eraill rhag smyglo. Ond roedd cyn lleied yn cael eu dal, ni lwyddodd hynny i stopio’r broblem smyglo.
Pan fu i’r llywodraeth ostwng y tollau ar de a nwyddau eraill ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, dirywiodd yr arfer o smyglo oherwydd nid oedd mor broffidiol wedi hynny.
Adeiladwyd tyrrau gwylio ar hyd arfordir de Lloegr er mwyn gwarchod rhag ymosodiad o Ffrainc. Roedd y tyrrau gwylio hyn yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddai’r smyglwyr yn cael eu dal. Crewyd gwylwyr y glannau yn y 1820au wnaeth olygu bod yna lai o gyfleoedd i smyglwyr hefyd.