Anhrefn amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol
Terfysg Beca
Rhwng 1839-43, gwisgodd grŵp o ffermwyr fel menywod ac ymosod ar tollborthGatiau ar ffyrdd tyrpeg. Roedd rhaid i ffermwyr a defnyddwyr eraill y ffordd dalu tollau i ddefnyddio’r ffyrdd. yn ne orllewin Cymru. Roedden nhw'n protestio yn erbyn y tollau uchel, a hefyd y rhenti oedd yn codi, y degymau a thlodi. Roedden nhw wedi dioddef cynaeafau gwael, ac yna cwympodd pris da byw. Dechreuodd nifer gael anhawster talu rhent, degymau, cyfraddau a’r tollau.

Roedden nhw'n marchogaeth ceffylau, wedi eu harfogi â ffyn a bwyelli. Fe wnaethon nhw ymosod ar nifer o dollbyrth yng ngorllewin Cymru. Roedd yr enw ‘Rebeca’ yn gyfeiriad Beiblaidd mwy na thebyg.
Ar 13 Mai 1839 ymosododd terfysgwyr Beca ar dollborth yn Efailwen. Llosgwyd y tollty hwn i’r llawr ar 6 Mehefin a dinistriwyd y dollborth. Lladdwyd un ceidwad tollborth, Sarah Williams, mewn ymosodiad ar 7 Medi 1843 yn Hendy.
Parhaodd yr ymosodiadau tan 1843, ond bu lleihad pan anfonodd y llywodraeth fwy o filwyr i’r ardal. Dechreuodd y protestwyr gynnal cyfarfodydd heddychlon yn hytrach nag ymosodiadau treisgar.
Terfysgoedd Swing
- Yn 1830 a 1831 ymosododd gweision fferm ar dai ac ysguboriau oedd yn eiddo i ffermwyr a thirfeddianwyr cyfoethog yn ne ddwyrain Lloegr. Fe losgon nhw tasau gwair a malu peiriannau fferm.
- Ymledodd yr ymosodiadau ar draws Canolbarth Lloegr, East Anglia a De Lloegr.
- Anfonwyd llythyrau bygythiol i dirfeddianwyr wedi eu llofnodi gan ‘Captain Swing’.
- Roeddent yn protestio oherwydd tlodi a defnyddio peiriannau newydd.
- Arestiodd y llywodraeth 2,000 o bobl. Crogwyd 19, carcharwyd 644 ac allfudwyd 481 i Awstralia.