Carchardai newydd ar ddiwedd y 19eg ganrif
Yn y 19eg ganrif, tyfodd nifer y bobl mewn carchardai yn sylweddol. Daeth dedfryd o garchar yn llawer mwy cyffredin yn sgil llai o bobl yn derbyn cosbau corfforol.
Adeiladwyd nifer o garchardai newydd yng nghanol a diwedd y 19eg ganrif, gyda'r bwriad o fod yn garchardai. Roedd nifer yn dilyn yr un dyluniad, roedden nhw'n ddiogel ac yn caniatáu i garcharorion gael celloedd unigol. Yn y carchardai yma defnyddiwyd dwy gyfundrefn wahanol - y system ar wahân a'r system dawel - i geisio diwygio carcharorion.
Y system ar wahân

Roedd rhai o’r carchardai newydd yma yn cael eu rhedeg fel carchardai ar wahân. Mewn carchardai ar wahân, roedd carcharorion yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd mewn celloedd unigol, ac yn cael eu cadw ar eu pennau eu hunain mewn celloedd am wythnosau. Yna byddai caplaniaid carchardai yn ymweld â’u celloedd ac yn ceisio eu hannog i fyw bywyd didrosedd mwy Cristnogol.
Roedd carcharorion ond yn cael dod allan o’u celloedd ar gyfer ymarfer corff a gwasanaethau’r eglwys.
Roedd rhaid iddyn nhw wisgo masgiau wrth ymarfer corff. Adeiladwyd capeli arbennig gyda bythau er mwyn cadw’r carcharorion ar wahân. Rhoddwyd y carcharorion ar waith yn gwnïo sachau post a sachau glo.
Carchar Pentonville
Carchar Pentonville yn Llundain oedd y carchar enwocaf oedd yn cael ei redeg fel carchar ar wahân. Dyluniwyd Pentonville yn arbennig gydag adenydd yn ymestyn o neuadd ganolog. Roedd yr adenydd yma yn caniatáu i garcharorion gael celloedd unigol. Yna defnyddiwyd dyluniadau tebyg mewn 54 o garchardai eraill yn cynnwys Rhuthun. Cafodd adain pedwar llawr tebyg i arddull Pentonville ei adeiladu yng Ngharchar Rhuthun yn 1878.
Y system dawel
Mewn carchardai tawel, nid oedd carcharorion yn cael eu cadw ar wahân, ond nid oedden nhw’n cael cyfathrebu. Gorfodwyd y carcharorion i wneud tasgau diflas ac ailadroddus mewn tawelwch llwyr. Roedd yn rhaid iddyn nhw blicio ocwm, cerdded ar felinau neu droi handlenni cranciau filoedd o weithiau.
Y syniad oedd y byddai’r tawelwch a'r diflastod yn galluogi i’r carcharorion fyfyrio ar eu troseddau. Arweiniodd y system carchardai tawel at gynnydd mewn hunanladdiad a phroblemau iechyd meddwl.

Ni lwyddodd y systemau ar wahân na’r system dawel i ostwng y gyfradd aildroseddu. Yn 1877, cymerodd y llywodraeth rheolaeth o’r holl garchardai. Erbyn yr 20fed ganrif, rhoddwyd terfyn ar yr arbrofion ar wahân a thawel. Dechreuodd carchardai roi terfyn ar y defnydd o lafur caled di-bwrpas, ee melinau traed a chranciau, ac fe'u diddymwyd yn y pen draw yn 1902.