Dulliau cosbiYr angen am ddiwygio carchardai

Roedd y dulliau cosbi a ddefnyddiwyd yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid yn seiliedig ar gosb eithaf a chosb gorfforol gyhoeddus. Gydag amser mae’r ffocws wedi newid, a charcharu yw ein prif ddull o gosbi erbyn heddiw. Sut mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Yr angen am ddiwygio carchardai

Yn 1553, trawsnewidiodd Edward VI balas brenhinol Bridewell yn Garchar. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, dechreuodd Ynadon Heddwch ddefnyddio Carchardai fel llefydd i geisio diwygio carcharorion drwy waith dan oruchwyliaeth.

Serch hynny, cyn 1700, roedd carchardai yn fwy tebyg i orsafoedd ar gyfer cadw pobl oedd dan amheuaeth cyn sefyll eu prawf neu droseddwyr oedd yn aros i’w cosbi. Erbyn 1700, roedd 14 carchar yn Llundain, gyda rhai ohonyn nhw wedi'u creu ar gyfer gwahanol fathau o droseddau, ee The Clink, Southwark ar gyfer carcharorion crefyddol, Newgate ar gyfer troseddwyr cyffredinol a’r King’s Bench, Southwark ar gyfer pobl mewn dyled.

Yn 1750, dim ond tua 4,000 o bobl oedd mewn carchardai ym Mhrydain. Ond roedd yr amodau yn wael. Roedd y niferoedd hyn wedi cael eu cadw'n isel oherwydd bod nifer yn cael eu halltudio i America, ond pan ddaeth hynny i ben yn 1776, cododd poblogaeth carchardai yn ddramatig a daeth yn achos pryder.

Roedd carchardai yn cael eu cynnal gan drefi a chynghorau ac nid oedd rheolau yn bodoli ynghylch sut y dylid cynnal carchar. Nid oedd llawer o adeiladau carchardai yn addas i’r diben ac nid oedd ganddyn nhw gyflenwad dŵr digonol na charthffosiaeth. Dim ond ystafell mawr oedd y rhan fwyaf ble’r oedd carcharorion yn cael eu cadw gyda’i gilydd.

Roedd llawer o garcharorion yn marw o ganlyniad i afiechydon yn y carchardai. Roedd teiffws yn cael ei adnabod fel 'twymyn y carchar'. Roedd tua 25 y cant o’r carcharorion yn marw yn y carchar bob blwyddyn. Nid oedd gardiau a cheidwaid y carchardai yn cael cyflog, felly i wneud arian roedden nhw’n cymryd arian gan y carcharorion. Gallai carcharorion mwy cyfoethog fforddio i dalu i Geidwad y carchar am welyau, blancedi a gwell bwyd.

John Howard

John Howard mewn cell dywyll mewn carchar. Mae sawl carcharor, wedi’u gwisgo’n garpiog, yn eistedd ar y llawr. Mae’n rhoi rhywfaint o arian o’i bwrs i un carcharor.
Figure caption,
John Howard yn ymweld â charchar yn ystod ei arolwg o amodau mewn carchardai

Yn 1777, cyhoeddodd John Howard adroddiad ar amodau mewn carchardai. Ei brif arsylwadau oedd:

  • nid oedd carcharorion yn cael eu gwahanu yn ôl rhyw na math o drosedd
  • roedd nifer o garcharorion yn marw o salwch neu afiechydon
  • roedd ceidwaid carchardai yn aml yn llwgr
  • nid oedd digon o bobl yn cael eu cyflogi i sicrhau bod carchardai yn ddiogel
  • roedd nifer o garcharorion yn aros yn y carchar y tu hwnt i ddiwedd eu dedfrydau oherwydd nad oedden nhw’n gallu fforddio ffi ceidwad y carchar am eu rhyddhau

Er mwyn llunio ei adroddiad, roedd Howard wedi ymweld â nifer o garchardai ar draws y wlad. Roedd y rhain yn cynnwys Carchar Caernarfon ac Abertawe. Dywedodd nad oedd gan Gaernarfon ddraeniau na dŵr ffresa dywedodd bod y carcharorion yn byw mewn celloedd bach heb ffenestri.

Roedd Howard yn credu petai carcharorion yn cael eu gorfodi i weithio ac yn treulio amser yn myfyrio ar eu troseddau, y gellid eu diwygio. Argymhellodd newidiadau i’r carchardai oedd yn cynnwys:

  • dŵr ffres
  • amodau glân a hylan
  • mynediad i driniaeth feddygol
  • gwell safon bwyd
  • tâl i geidwaid carchardai
  • ymweliadau gan bobl yr Eglwys

G O Paul

Roedd Syr George Onesiphorus Paul yn ddiwygiwr carchardai arall. Dyluniodd garchar newydd oedd yn ddiogel, ble’r oedd yna lefydd ar wahân i garcharorion gwrywaidd a benywaidd, yn ogystal â chapel ac ystafelloedd gweithio a iardiau ymarfer corff. Hefyd cyhoeddodd lyfr yn 1784 o’r enw Thoughts on the Alarming Progress of Jail Fevers. Roedd ei garchardai'n cynnwys ardaloedd ar wahân er mwyn gwirio carcharorion newydd am glefydau, awyru da ac iard ymarfer corff. Credai y gellid rheoli'r dwymyn drwy ei gynlluniau.

Elizabeth Fry

Llun Elizabeth Fry.

Parhaodd y pwysau i ddiwygio carchardai yn gynnar yn y 19eg ganrif diolch i Elizabeth Fry. Roedd hi'n Grynwr, ac roedd amodau ar gyfer carcharorion benywaidd yng Ngharchar Newgate yn Llundain wedi ei gwylltio.

Gwelodd gannoedd o fenywod wedi eu carcharu gyda’i gilydd mewn wardiau. Roedd troseddwyr oedd wedi’u canfod yn euog yn gymysg â rhai oedd yn disgwyl am dreial. Roedd carcharorion yn cysgu ar loriau oer heb flancedi na dillad gwely.

Roedd Fry yn ymweld â Charchar Newgate yn rheolaidd. Roedd yn darparu dillad a dillad gwely a dechreuodd ddysgu sgiliau megis gwau i’r carcharorion. Sefydlodd gapel ac ysgol yn y carchar.

Yn 1817, ynghyd â’r Crynwyr, sefydlodd Gymdeithas Gwella Carcharorion Benywaidd yn Newgate. Hefyd rhoddodd Fry dystiolaeth i bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar amodau carchardai. Er na welwyd canlyniadau yn syth, dylanwadodd nifer o’i syniadau ar Ddeddf Carchardai 1823.

Nododd Deddf Carchardai 1823 y dylai carchardai fod yn ddiogel; dylai ceidwaid carchardai gael eu talu; dylai menywod gael eu cadw ar wahân i ddynion; dylai meddygon a chaplaniaid ymweld â charchardai ac, yn olaf, dylid ymdrechu i ddiwygio carcharorion.