Y defnydd o gosb gorfforol gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif
Cyffion a rhigod

Defnyddiwyd y rhain er mwyn cosbi pobl am droseddau megis rhegi neu feddwdod. Byddai troseddwyr yn eistedd neu’n sefyll yn sownd i ffrâm goed a byddai’r bobl leol yn taflu bwyd wedi pydru neu hyd yn oed gerrig atyn nhw.
Defnyddiwyd cyffion a rhigod fel cosb drwy gydol y 16eg a’r 17eg ganrif. Defnyddiwyd llai a llai ohonyn nhw yn ystod y 18fed ganrif. Credir mai’r tro olaf i gyffion gael eu defnyddio yng Nghymru oedd yn 1872 yng Nghastell Newydd Emlyn.
Fflangellu
Roedd fflangellu yn gosb gyffredin yn ystod oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid. Fe’i defnyddiwyd ar gyfer troseddau megis dwyn neu gwrthod mynychu’r eglwys, ac roedd crwydriaid yn cael eu fflangellu’n gyhoeddus.
Roedd fflangellu yn parhau i fod yn ddedfryd y gellid ei basio gan y llysoedd hyd at ganol yr 20fed ganrif, er nid ar gyfer crwydraeth neu beidio â mynychu’r eglwys.
Cosbau cyhoeddus yng Nghymru
Yn ychwanegol at y cosbau a ddefnyddiwyd yn Lloegr, megis cyffion, rhigod, fflangellu a dienyddio, roedd gan Gymru gosbau eraill a weinyddwyd yn gyhoeddus ar ddechrau’r 16eg ganrif.
Roedd Ceffyl Pren yn fath o gosb gorfforol a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig, fel arfer ar gyfer dynion a gyhuddwyd o guro eu gwragedd, anffyddlondeb neu wrthod priodi merch yr oedden nhw wedi ei beichiogi. Roedd yn fath o gosb gymunedol ac mae'n debyg y defnyddiwyd y Ceffyl Pren hyd at y 1840au.
Credir bod Terfysgwyr Beca wedi defnyddio’r Ceffyl Pren ar achwynwyr a cheidwaid tollbyrth. Byddai troseddwyr yn cael eu cludo o gwmpas y pentref wedi eu clymu i ffrâm goed neu ysgol. Roedd hynny’n codi cywilydd ac yn aml roedd yn boenus.
Grŵp oedd yn gweithredu mewn ardaloedd diwydiannol oedd y Scotch Cattle yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd gangiau Scotch Cattle yn cosbi’r rhai oedd wedi gweithio yn ystod streic. Byddai’r Scotch Cattle yn gwisgo cuddwisg ac yn ymweld â chartrefi’r blackleggerPerson sy’n gweithio yn lle rhywun sydd ar streic. neu’r rheini oedd yn gweithio yn ystod streic.
Byddai’r Scotch Cattle yn gwisgo cuddwisg ac yn ymweld â chartrefi pobl. Bydden nhw’n chwythu cyrn ac yn ysgwyd cadwyni, ac yna’n malu drysau ac yn malu dodrefn yn y tŷ. Petai pobl yn ceisio eu rhwystro, bydden nhw’n cael eu curo.